Ymgyrchwyr yn cario arch tu allan i'r Senedd mewn protest yn erbyn cais i ymestyn gwaith mwyngloddio
Ymgyrchwyr yn cario arch tu allan i'r Senedd mewn protest yn erbyn cais i ymestyn gwaith mwyngloddio

Mae aelodau'r grŵp Gwrthryfel Difodiant wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cais i ymestyn gwaith mwyngloddio yng ngwaith glo brig Ffos-y-frân ym Merthyr Tudful.
Fe gariodd protestwyr arch tu allan i'r Senedd fore Fawrth i brotestio yn erbyn estyniad o naw mis i'r amserlen wreiddiol, gyda’r posibilrwydd o gais pellach, i ymestyn y drwydded ar gyfer echdynnu glo am dair blynedd ychwanegol.
Dyma'r eildro i'r grŵp brotestio yn erbyn y cais i ymestyn gwaith mwyngloddio yn y safle.
Cafodd baner fawr ei harddangos yno ddydd Sul, gyda'r neges “Dim estyniad glo".
Cafodd deiseb ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru gan ddau berson lleol, Chris ac Alyson Austin ar 12 Ionawr, a oedd yn mynnu bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cyfarwyddyd i wrthod y cais gan gwmni Merthyr (South Wales) Ltd.
“Doedden ni ddim eisiau’r mwynglawdd hwn yn y lle cyntaf, ac roeddwn wedi ymladd yn ffyrnig i’w atal rhag cael ei gymeradwyo. Ond nid oeddem yn llwyddiannus, a gorfodwyd y pwll arnom. Nid oedd gennym unrhyw ddewis ond ymladd i gyfyngu ar ei effaith arnom," meddai.
“Roedden ni’n edrych ymlaen at weld diwedd y gwaith ac roedden ni’n siomedig iawn eu bod nhw’n parhau i weithio y tu hwnt i ddyddiad gorffen eu caniatâd cynllunio.”
'Codi llais'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Gwrthryfel Difodiant bod angen defnyddio llais er mwyn tynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd.
“Mae aelodau Gwrthryfel Difodiant wedi teithio i Ferthyr ddydd Sul i dynnu sylw at y ffaith y dylai cynhyrchu glo budr fod wedi dod i ben erbyn Medi 2022, ac na ddylid byth ystyried estyniad.
“Fel cenedl, rydyn ni bob amser yn gyflym iawn i godi llais pan fydd y math hwn o beth yn digwydd dramor, ond mae hyn yn digwydd ar ein stepen drws mewn gwirionedd.
"Dros yr haf gwelsom gofnodion tymheredd uchel iawn ac mae cynhesu byd-eang wedi gwaethygu digwyddiadau tywydd eithafol sydd wedi dinistrio trefi gan dân a llifogydd. Dylem fod yn buddsoddi mewn swyddi gwyrdd. Glo yw ein treftadaeth ond nid y dyfodol.”
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru : "Mae angen i unrhyw awdurdod lleol sy' ddim yn bwriadu gwrthod cais i ddatblygu gwaith glo, gysylltu â gweinidogion Llywodraeth Cymru, a fydd yna'n asesu'r penderfyniad ac yn penderfynu ar y camau nesaf."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am eu hymateb.