Newyddion S4C

Gogledd Iwerddon / Omagh

Chweched dyn wedi’i arestio mewn ymchwiliad i saethu heddwas yng Ngogledd Iwerddon

NS4C 26/02/2023

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ymgais i lofruddio'r Ditectif Arolygydd John Caldwell yng Ngogledd Iwerddon wedi arestio chweched dyn.

Cafodd y dyn 71 oed ei arestio yn Omagh ddydd Sadwrn o dan y Ddeddf Terfysgaeth.

Cafodd y Ditectif Arolygydd Caldwell ei saethu sawl gwaith o flaen ei fab ifanc mewn neuadd chwaraeon yn Omagh, Sir Tyrone, ar ôl hyfforddi tîm pêl-droed dan 15 oed.

Mae ditectifs wedi cael mwy o amser i holi pedwar dyn arall mewn cysylltiad â'r saethu nos Fercher.

Mae llys yn Belfast wedi caniatau estyniad i gadw'r dynion, 22, 38, 45 a 47 oed, tan 22:00 ddydd Mawrth.

Maen nhw a dyn arall, 43 oed, yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ddydd Iau a dydd Gwener yn ardaloedd Omagh a Coalisland yn Sir Tyrone.

Mae'r Ditectif Arolygydd Caldwell yn parhau'n ddifrifol wael yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad.

Dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Iwerddon, ei fod wedi dioddef anafiadau a all newid ei fywyd.

Ddydd Sadwrn cymerodd mwy na 1,000 o bobl ran mewn taith gerdded a rali i ddangos undod gyda’r heddwas gafodd ei saethu pan nad oedd ar ddyletswydd.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.