Cytundeb ar brotocol Gogledd Iwerddon ‘yn agos'
Nid yw cytundeb newydd ar brotocol Gogledd Iwerddon wedi’i gwblhau eto ond mae’n “agos iawn”, yn ôl arweinydd Iwerddon, y Taoiseach Leo Varadkar.
Dywedodd y gallai cytundeb ar y protocol ddod o fewn dyddiau ond bod gan wleidyddion ar y ddwy ochr fwlch i'w gau o hyd.
Mae trafodaethau rhwng y DU a’r UE i ddatrys problemau gyda’r trefniadau masnachu ar ôl Brexit wedi bod yn digwydd ers peth amser.
Roedd disgwyl i lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, deithio i Brydain ddydd Sadwrn, i gwrdd â’r Brenin Charles yng Nghastell Windsor.
Cadarnhaodd ffynonellau Llywodraeth y DU fod taith Ms von der Leyen wedi’i gohirio.
Mae’r DUP wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu ar bryderon Unoliaethwyr ynghylch effaith y protocol ar fasnach rhwng y DU a Gogledd Iwerddon, a’r effaith ar yr Undeb.
'Ar fin dod i ben'
Mae Syr Jeffrey Donaldson o'r DUP wedi mynnu gweithredu ar y protocol cyn i’w blaid ail-ymuno â llywodraeth ddatganoledig yn Stormont.
Wrth siarad yn Galway ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Varadkar ei fod yn ofalus ynglŷn â dweud unrhyw beth a allai beryglu'r broses, ond nododd ei fod yn credu bod posibilrwydd o gytundeb yn ystod y dyddiau nesaf.
“Yn sicr nid yw’r cytundeb wedi’i wneud eto,” meddai Mr Varadkar.
“Ond rwy’n meddwl ein bod ni ar fin dod i ben ac rydw i wir eisiau diolch i Lywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd a phleidiau Gogledd Iwerddon am lefel yr ymgysylltiad y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf i’n cyrraedd ni.
“Byddwn yn annog pawb i fynd yr ail filltir i ddod i gytundeb oherwydd mae’r manteision yn enfawr.”