Newyddion S4C

Cymru'n colli 10-20 yn erbyn Lloegr ar brynhawn siomedig arall yng Nghaerdydd

25/02/2023
S4C

Ar ôl yr holl drafferthion oddi ar y cae dros yr wythnosau diwethaf, roedd hi'n gyfle i chwaraewyr Cymru ganolbwyntio ar faterion ar y cae am unwaith, wrth groesawu Lloegr i Stadiwm y Principality brynhawn dydd Sadwrn.

Colli oedd hanes y crysau cochion yn eu dwy gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a hynny o 34-10 ar y penwythnos agoriadol yn erbyn Iwerddon ac yna o 35-7 ym Murrayfield yn erbyn yr Alban.

Roedd Cymru wedi gwneud naw newid i’r tîm a gollodd yn drwm yn Edinburgh, gyda’r canolwr 20 oed Mason Grady yn hawlio'i gap cyntaf.

Dibynnu ar chwaraewyr profiadol fel Tomas Francis, Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Toby Faletau oedd dewis Warren Gatland wrth ddewis ei dîm, gan gadw chwaraewyr llai profiadol ar y fainc y tro hwn ar ôl y siom yn yr Alban.

Cyn y gêm fe gafwyd munud o dawelwch i nodi blwyddyn ers dechrau'r gwrthdaro yn Wcráin, a churo dwylo er cof am Charlie Faulkner, fu farw'n ddiweddar.

Y dyfarnwr profiadol o Ffrainc, Mathieu Raynal, oedd wrth y llyw, gan chwythu ei chwiban ar gyfer y gic gyntaf gan Owen Williams i Gymru.

Cyfle cynnar

Daeth cyfle cynnar i Talupe Faletau ar ôl rhuthro i atal cic uchel o'r cefn gan Loegr, ond ofer oedd ei ymdrechion.

Fe ildiodd Cymru gic gosb ar ôl sgrym gyntaf y gêm, ac fe darodd Owen Farrell y bêl yn ddwfn yn ôl i dir Cymru, gyda Halfpenny yn clirio.

Aeth Lloegr trwy'r cymalau am gyfnod gan geisio ymestyn y Cymry, ond fe ddangosodd y crysau cochion ddigon o ddisgyblaeth i sefyll yn y bwlch.

Image
newyddion

Dechrau hyderus i Gymru felly, er y pwysau.

Ond wedi 10 munud o chwarae fe ildiodd Cymru gic gosb, gyda Owen Farrell yn hawlio'r pwyntiau cyntaf i'r ymwelwyr. 0-3 i Loegr a 72% o'r meddiant yn y munudau agoriadol.

Roedd angen meddiant ar Gymru, ac er bod yn 15 munud cyntaf wedi bod yn addawol, Lloegr oedd yn rheoli'r chwarae.

Cais Cyntaf

Cwta 20 munud i mewn, ac fe ddaeth cais cyntaf y gêm, a hynny i'r ymwelwyr - y bêl yn cael ei lledu'n gelfydd i Anthony Watson i durio yn y gornel.

Methu oedd hanes Owen Farrell wrth iddo geisio cynyddu'r fantais, gyda'r bêl yn taro'r postyn - felly Lloegr yn gorfod bodloni gyda phum pwynt yn unig y tro hwn.

Daeth cic gosb yn fuan wedyn i Gymru ar ôl  ailddechrau'r chwarae, a Leigh Halfpenny'n sicrhau'r pwyntiau cyntaf i Gymru ar ôl 22 munud. 

Roedd angen i Gymru osod eu stamp ar y chwarae, ond roedd cadw'r meddiant yn anodd gydag ychydig o ddiffyg disgyblaeth yn amlygu ei hun wedi hanner awr.

Roedd Cymru'n colli'r bêl yn y gwrthdrawiadau, gyda phatrwm y cymalau'n dod i ben yn rhy fuan i ddylanwadu ar y chwarae'n sylweddol.

Image
newyddion

Methu cic gosb arall

Ychydig wedi hanner awr fe gafodd Tomas Francis ei gosbi yn y sgrym gan ildio cic gosb arall i'r ymwelwyr. Ond er mawr ryddhad i Gymru, fe fethodd Owen Farrell â hawlio'r pwyntiau am yr eildro.

Gyda 10 munud i fynd cyn yr hanner, dim ond pum pwynt oedd yn gwahanu'r ddau dîm, ac roedd Cymru'n dal yn y gêm. Roedd angen pwyll, amynedd a disgyblaeth, gyda Lloegr yn dangos eu cryfder yn yr awyr.

Funudau cyn yr hanner, fe ddaeth symudiad gorau Cymru yn y 40 munud cyntaf, gyda Louis Rees-Zammit yn dangos ei ddoniau ar yr ochr chwith - ond yn ofer yn y pen draw.

Arhosodd amddiffyn Lloegr yn gadarn wedi ton ar ôl ton o hyrddiadau gan y crysau cochion - gan gadw'r fantais ar yr hanner.

Dechrau gwych i'r ail hanner

Os oedd pwysau ar Gymru i ddod allan yn gryf yn ystod yr ail hanner, fe dawelodd y crysau cochion eu beirniaid yn syth.

Doedd pob cefnogwr heb gyrraedd eu seddi mewn amser i weld Louis Rees-Zammit yn croesi'r llinell gais ar ôl rhyngipio mewn fflach ar ôl cic gyntaf yr ail-ddechrau.

Trosiad hawdd i Halfpenny, a'r gêm wedi ei throi ar ei phen - a Chymru ar y blaen o 10-8.

Ond byr iawn oedd y fantais yn nwylo Cymru, gyda chais gan Loegr yn dilyn yn fuan wedyn a Sinckler yn hawlio pum pwynt i'r crysau gwyn.

Daeth trosiad Owen Farrell â'r fantais i Loegr yn 10-15.

Image
newyddion

Dechreuodd Gymru ddangos diffyg disgyblaeth am gyfnod gan ildio ciciau cosb, a 'Swing Low' yn atseinio ymysg rhai yn y dorf yn adlewyrchiad o hyder y Saeson ar y cae.

Eilyddio

Wedi 52 o funudau fe gafodd Owen Williams a Josh Adams eu heilyddio am Dan Biggar a Nick Tompkins, gyda Mason Grady yn symud i'r asgell.

Daeth Dan Biggar ar y cae i geisio dylanwadu ar y frwydr yn yr awyr wrth i Loegr geisio ennill tir.

Unwaith eto roedd Lloegr yn llwyddiannus yn y gwrthdrawiadau, ond dim ond pum pwynt oedd rhwng y ddau dîm yn dal i fod.

Daeth newidiadau pellach i Gymru yn y rheng flaen wedi i Rhys Carre a Dillon Lewis ddod ar y cae wedi 56 munud. Funud wedyn daeth Mako Vunipola a Ben Curry ymlaen i Loegr.

Image
newyddion

Wedi awr o chwarae roedd y canlyniad yn parhau yn y fantol, gyda meddiant Lloegr yn datblygu unwaith eto, ond heb yr hyder i fanteisio'n llawn a chynyddu eu mantais.

Daeth cic gosb arall i Owen Farrell yn fuan wedyn - ond unwaith eto methu oedd ei hanes.

Daeth Alun Wyn Jones ymlaen yn lle Dafydd Jenkins wedi 64 munud, a Dan Cole ymlaen i'r Saeson.

Roedd elfen o ansicrwydd yn chwarae Cymru ar gyfnodau, heb bendantrwydd na threfn yng nghanol y cae.

Gyda chwarter awr yn weddill, roedd cryn fynd a dod wrth i'r ddwy ochr chwarae am diriogaeth gyda chiciau uchel.

Bu bron y dim i Loegr dorri'n rhydd gyda rhediad gan Max Malins wedi 72 munud, ond ofer oedd yr ymdrech.

Roedd y camgymeriadau'n cynyddu, a Lloegr yn pwyso unwaith eto gyda 10 munud ar ôl.

Fe dalodd eu hymdrech ar ei ganfed yn y pen draw, er mawr siom i gefnogwyr Cymru - cais i Ollie Lawrence yn cynyddu'r fantais i 10 pwynt.

Unwaith eto, methu â throsi oedd hanes Owen Farrell ar brynhawn siomedig o gicio iddo, ond roedd y bwlch bellach yn un cyfforddus i Loegr.

Er i Gymru chwarae'n dda ar gyfnodau, roedd rheolaeth Lloegr o'r chwarae yn ddigon i hawlio'r fuddugoliaeth yn y pen draw.

10-20 i Loegr ar y chwiban olaf.

Lluniau: Asiantaeth Lluniau Hugh Evans

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.