Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol cwmni theatr o Abertawe wedi 60 blynedd o berfformio

Pryder am ddyfodol cwmni theatr o Abertawe wedi 60 blynedd o berfformio

NS4C 26/02/2023

Mae cwmni theatr yn Abertawe yn poeni mai eleni fydd y tro olaf iddynt allu perfformio.

Ers 1963 mae Cymdeithas Operatig Amatur y Cocyd wedi bod yn cynnal sioeau ar draws Abertawe, o Fiddler on The Roof i'w sioe ddiweddar, Kipps.

Ond eleni mae pryder y bydd y llen yn disgyn am y tro olaf wrth i gostau cynhyrchu gynyddu gyda gwerthiant eu tocynnau yn isel.

Carys Wright yw is-gadeirydd y gymdeithas, ac mae ganddi bryder mawr na fydd cyfle i'r gymdeithas berfformio yn y dyfodol.

"Fi'n credu y prif bryder yw falle bydd dim cyfle i ni berfformio yn y dyfodol. Mae'r cwmni wedi bod yn cwmni am 60 mlynedd nawr felly bydd e'n real real siom os bydd pethau'n gorfod dod i ben.

Image
Carys Wright
Mae Carys wedi bod yn rhan o'r gymdeithas ers dros 10 o flynyddoedd.

"Yn enwedig, achos mae lot o bobl newydd wedi ymuno eleni a ma' nhw mor cyffrous i neud sioe yn y Taliesin yn Abertawe a bydd e'n rili siomedig os ma' hwn yn dod i ben yn rili glou iddyn nhw hefyd."

Dyma'r tro cyntaf i'r sioe ddychwelyd ers y pandemig, ac mae costau wedi cynyddu'n sylweddol ers hynny.

Mae'n costio'r cwmni tua £42,000 i gynhyrchu'r sioe, ac wrth i gostau barhau i godi, mae'r bygythiad y gall y sioe ddod i ben yn bosibilrwydd go iawn.

"Ma'r sioe ma' yn costi ni tua £42,000 i roi arno... felly mae'n hollbwysig ma' pob tocyn ni'n gallu gwerthu yn cael ei gwerthu."

Teulu

Er bod y posibilrwydd na fydd y gymdeithas yn gallu perfformio'r flwyddyn nesaf, mae 'na gyffro wrth i'r actorion baratoi at y noson agoriadol.

Ashton Williams sydd yn chwarae prif ran y sioe, ac yntau ond yn 18 oed. 

Mae wedi mwynhau gallu dysgu gan aelodau hŷn y cast, gan gynnwys rhai ohonynt sydd wedi bod yn y gymdeithas ers 40 o flynyddoedd.

"Fi'n credu bod pawb wedi gwthio fi mewn, mewn sens da, achos ma, pawb mor neis, s'dim rhaid i ti bod yn ofn," meddai Ashton.

"Pan o ni wedi cael ei eni, dyna pryd oedd rhai o nhw wedi dechrau ei sioe cyntaf, felly dwi'n generation cwbl gwahanol. Ma'r syniadau sy'n mynd o gwmpas, hen a newydd, maen nhw'n neis ac yn fresh."

Image
Arthur Kipps
Roedd y cast wedi derbyn eu gwisgoedd am y tro cyntaf yn un o'u sesiynau ymarfer olaf cyn y noson agoriadol.

I Carys, mae'r amrywiaeth o oedrannau a phrofiadau yn y cast yn gwneud iddo deimlo fel teulu.

"Ma' fe fel teulu, mae'n cwmni mor agos. Ma' pawb yn wir yn joio beth ma' nhw'n neud, ma' pawb yn cefnogi ei gilydd, dyw e ddim yn gystadleuol fan hyn.

"Ma' pawb rili rili mo'yn y gore i pawb arall a fi'n credu i weld hwn i dod i ben, honestly allai ddim rhoi e mewn i geirie beth bydd hwnna fel."

O gychwyn fel cwmni yn 1963 hyd at berfformio yn theatr y Taliesin heddiw, mae'r gymdeithas yn llawn hanes a straeon wedi'r holl flynyddoedd.

Ond mae bygythiad y gallai'r cyfle i greu mwy o hanes ac atgofion ddod i ben, gyda'r llen yn disgyn am y tro olaf ar y gymdeithas.

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.