Siom i ymgyrchwyr wrth geisio atal hen dafarn rhag cael ei throi yn llety gwyliau
Mae trigolion sydd wedi bod yn brwydro i achub tafarn hanesyddol yng Ngwynedd rhag cael ei newid yn llety gwyliau wedi mynegi eu siom y bydd angen ymgyrchu o'r newydd wedi i gais cynllunio arall gael ei gyflwyno.
Mae'r ymgyrchwyr wedi dweud mai'r bwriad yw "parhau gyda'r frwydr" i achub tafarn y Vaynol Arms ym Mhentir yn y gobaith y bydd modd ei phrynu yn y dyfodol ar gyfer y gymuned.
Fe dderbyniodd Cyngor Gwynedd gais cynllunio newydd i newid defnydd llawr gwaelod yr adeilad o dafarn i unedau gwyliau ar 20 Chwefror.
Roedd cynlluniau blaenorol gan y perchenog Duncan Gilroy wedi eu cyflwyno i addasu'r dafarn i ddwy uned ar gyfer ymwelwyr, ond fe gafodd y cais gwreiddiol ei wrthod gan yr awdurdod, gan ddweud nad oedd "digon o wybodaeth" wedi ei ddarparu am y cais.
Bellach mae cais cynllunio newydd wedi ei gyflwyno yn enw'r asiant Paul Roberts o gwmni Sylfaen Associates Ltd.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Iau, dywedodd yr ymgyrchwyr y bydd angen i bobl yr ardal ystyried eu barn am y datblygiad unwaith eto o ganlyniad i'r cais newydd, a bod y grŵp ymgyrchu yn bwriadu gwrthwynebu am yr eildro.
Dywedodd Mr Gilroy: “Cynigiwyd y Vaynol Arms i’r gymuned leol ar brydles. Roedd y brydles yn sylweddol llai na'r brydles wreiddiol a oedd gan y cyn-berchennog Robinsons gyda'u tenant.
"Nid oedd y gymuned hyd yn oed yn gallu agor cyfrif banc ac felly fe dynnodd yn ôl o negodi'r brydles. Mae'r gymuned wedi dweud eu bod am brynu'r adeilad. Nid ydym wedi derbyn unrhyw gynnig gan neb a bellach nid yw'r adeilad ar werth."
Llun: Google