Newyddion S4C

Gogledd Iwerddon / Omagh

Arestio pedwerydd dyn ar ôl i heddwas gael ei saethu yng Ngogledd Iwerddon

NS4C 24/02/2023

Mae pedwerydd dyn wedi cael ei arestio ar ôl i heddwas gael ei saethu gan ymosodwyr mewn mygydau yn Sir Tyrone yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd y Ditectif Brif Arolygydd John Caldwell, oedd ddim ar ddyletswydd ar y pryd, ei saethu wrth iddo hyfforddi plant mewn canolfan chwaraeon yn Omagh nos Fercher. 

Mae Mr Caldwell yn parahau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad. 

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu eu bod wedi arestio dyn 22 oed yn fuan fore Gwener yn ardal Coalisland. 

Daw hyn wedi i Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon arestio tri dyn, 38, 45 a 47 oed, ar amheuaeth o geisio llofruddio Mr Caldwell. 

Dywedodd yr heddlu ddydd Iau mai grŵp gweriniaethol y New IRA oedd prif ganolbwynt eu hymchwiliad. 

Dywedodd Prif Gwnstabl Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, Simon Byrne, fod Mr Caldwell yn "dad, gŵr, cydweithiwr ac yn aelod gwerthfawr a gweithgar o'i gymuned leol.

"Yn amlwg fel sefydliad, rydym ni mewn sioc ac yn flin yn dilyn yr ymosodiad ddydd Mercher."

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.