Carcharu dyn o Ferthyr am drywanu mam a'i mab yn eu cartref

Mae dyn 53 oed wedi ei ddedfrydu i chwe blynedd a hanner yn y carchar ar ôl trywanu mam a'i mab yn eu cartref eu hunain.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ym Mhenydarren, Merthyr, ar 13 Tachwedd 2022, yn dilyn adroddiad o drywanu.
Cafodd dynes 80 oed ei thrywanu dwywaith yn ei garddwn, gan hefyd dorri ei garddwn yn yr ymosodiad.
Cafodd dyn 43 oed hefyd ei drywanu yn ei frest. Roedd bywyd y dyn mewn perygl ar un adeg o ganlyniad i’r anafiadau difrifol y dioddefodd i’w ysgyfaint.
Fe wnaeth Patrick Shaw ddianc o’r safle yng nghar y dioddefwr, ond fe gafodd ei ganfod gan yr heddlu a’i harestio yn hwyrach ymlaen y diwrnod hwnnw.
Fe blediodd Shaw yn euog i ddau gyhuddiad o anafu bwriadol mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mercher.
Cafodd hefyd ei ganfod yn euog o fod ag arf yn ei feddiant, a chymryd car heb ganiatâd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Matt Pryce o Heddlu De Cymru: “Mi fydd Patrick Shaw yn treulio cyfnod hir yn y carchar am yr ymosodiad erchyll yma ar deulu yn eu cartref eu hunain.
“Heb ddewrder cymdogion a phrydlondeb staff yr heddlu ac ambiwlans, fe allai’r canlyniad wedi bod yn wahanol i’r dioddefwyr.”