Dwy fenyw yn cyhuddo mudiad y Scouts o 'dawelu' honiadau o gamdriniaeth rhyw

Mae dwy fenyw o Gymru wedi cyhuddo mudiad y Scouts o geisio "tawelu" honiadau o gamdriniaeth rhyw ac "amddiffyn" eu hymosodwr.
Maent hefyd yn honni bod y Scouts wedi galluogi Phillip Perks, 55 o Ddinas Powys, i gadw ei rôl o fewn y sefydliad er eu bod yn ymwybodol o'r honiadau.
Dywedodd y ddwy fenyw, sydd bellach yn eu 30au, fod y gamdriniaeth wedi digwydd pan oedd y ddwy ohonynt yn 16 oed ac yn aelodau o'r Scouts.
Mae'r Scouts wedi dweud mai diogelwch y bobl ifanc yn eu gofal oedd eu "prif flaenoriaeth" ac roedd pawb o fewn y sefydliad yn dilyn cod gweithredu llym.
'Ymdrech systematig'
Fe wnaeth Perks arwain grŵp Scouts ym Mhenarth am 20 mlynedd, cyn iddo gael ei arestio a'i gwestiynau ynglŷn â'r honiadau wedi i'r menywod fynd at yr heddlu ym mis Mawrth y llynedd.
Bu farw Perks ychydig o ddiwrnodau yn ddiweddarach. Cafodd ei gorff ei ddarganfod yng nghaban grŵp Scouts Penarth.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod Perks o dan ymchwiliad ar amheuaeth o ymosodiad rhywiol.
Er i'r ddwy fenyw godi'r honiadau gydag arweinwyr y Scouts ar ddau achlysur - unwaith yn y 2000au cynnar a thro arall yn 2016 - ni chafodd Perks ei wahardd o'i rôl tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth.
Dywedodd y menywod eu bod wedi gofyn i'r Scouts ar sawl achlysur i ddweud wrth aelodau eraill am yr honiadau yn erbyn Perks, ond roedd arweinwyr wedi ceisio eu "distewi."
Mae'r ddwy bellach yn dwyn achos llys sifil yn erbyn y Scouts.
"Dwi'n pryderu gymaint bod yna bobl eraill y mae wedi cam-drin," meddai un.
"Ond mae'n teimlo bod yna ymdrech systematig i'n distewi a gwthio ni i adael y peth."
Dywedodd y fenyw arall ei bod yn teimlo bod y Scouts wedi "amddiffyn" Perks yn sgil yr honiadau.
"Does dim ots os oedd o'n fyw neu yn farw, dylen nhw fod wedi dweud wrth rieni, mae'n amlwg bysen nhw eisiau gwybod?"
"Mae jyst yn teimlo fel eu bod yn ei amddiffyn, neu o leiaf ei enw da."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Scouts: "Rydym yn ymwybodol o'r achos yma ac wedi cysylltu gyda'r ddwy fenyw sydd wedi rhannu eu stori.
"Rydym yn cymryd y wybodaeth y maen nhw wedi ei ddarparu o ddifrif.
"Mae hyn yn achos y mae'n rhaid i ni weithio gyda'r heddlu ynglŷn â'r materion sydd wedi codi, yn enwedig gyda materion o ddioddefwyr eraill.
"Rydym yn cynnal ymchwiliad mewnol ar hyn o bryd a'r bwriad yw cyflawni hynny erbyn mis Mawrth 2023."