Galw am ymyrraeth frys wedi 'camweithredu' ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Mae un o bwyllgorau'r Senedd wedi galw am ymyrraeth frys gan Lywodraeth Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn adroddiadau am "gamweithredu" yn y Bwrdd.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau, mae'r problemau ar frig Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn “berygl sylfaenol” i allu’r bwrdd i weithio’n effeithiol.
Yn yr adroddiad dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod "problemau dwfn" o fewn bwrdd arweinyddiaeth y corff sy’n gwasanaethu gogledd Cymru.
Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, Mark Isherwood, bellach wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.
"Mewn cyfnod o heriau digynsail a phryderon hirdymor ynghylch perfformiad, ansawdd a diogelwch, mae’n ysgytwol darllen yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol am y diffyg cydlyniant ar frig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr," meddai.
"Yr hyn sydd fwyaf brawychus yw'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion, gan nad ydynt yn cael y gwasanaethau iechyd sydd wir eu hangen arnynt."
'Cwbl amlwg'
Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Compton mae’r heriau yn “peryglu’n sylfaenol gallu’r bwrdd i weithio’n effeithiol ac mewn modd integredig i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu hwynebu”.
Ychwanegodd fod “holltau” a “carfannau eglur a dwfn” yn bodoli o fewn y Tîm Gweithredol, a’r bwrdd ehangach i raddau.
“Mae’r camweithrediad o fewn y Tîm Gweithredol yn gwbl amlwg i’r Aelodau Annibynnol ar y bwrdd,” meddai.
“Mae hyn, ynghyd â phryderon am afael y Tîm Gweithredol ar heriau gweithredu ac ansawdd sicrwydd, wedi erydu ymddiriedaeth a hyder Aelodau Annibynnol yn y Tîm Gweithredol.”
‘Pryder’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr adroddiad yn “codi pryderon difrifol am reolaeth a llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr”.
"Rydym yn pryderu am berfformiad y bwrdd a byddwn yn cyfarfod â nhw i drafod y pryderon hynny".
Bydd y llywodraeth yn ymateb yn llawn i ganfyddiadau'r adroddiad "yn fuan".