Tri wedi'u harestio ar ôl i heddwas gael ei saethu yng Ngogledd Iwerddon

Mae tri dyn wedi'u harestio ar ôl i heddwas gael ei saethu gan ymosodwyr mewn mygydau yn Swydd Tyrone yng Ngogledd Iwerddon.
Cafodd y Ditectif Brif Arolygydd John Caldwell, oedd ddim ar ddyletswydd ar y pryd, ei saethu wrth iddo hyfforddi plant mewn canolfan chwaraeon yn Omagh nos Fercher.
Mae Mr Caldwell yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Altnagelvin yn Londonderry.
Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon bellach wedi arestio tri dyn, 38, 45 a 47 oed, ar amheuaeth o geisio ei lofruddio.
Dywedodd yr heddlu yn gynharach ddydd Iau mai grŵp gweriniaethol y New IRA oedd prif ganolbwynt eu hymchwiliad.
'Llwfr'
Fe wnaeth Liam Kelly, cadeirydd y Ffederasiwn Heddlu ar gyfer Gogledd Iwerddon, ddisgrifio'r ymosodiad fel un "barbaraidd."
"Rydym ar ddeall bod dau ddyn yn gysylltiedig â'r ymosodiad. Cafodd yr heddwas ei saethu nifer o weithiau wrth iddo hyfforddi pobl ifanc i chwarae pêl-droed.
"Roedd hyn yn ymgais farbaraidd a dideimlad i geisio llofruddio heddwas nad oedd yn gweithio ar y pryd.
"Mae'r heddwas yn adnabyddus ac uchel ei barch yn yr ardal ac yn chwarae rôl flaenllaw yn y gymuned.
"Mae'n rhaid i'r ymosodwyr llwfr yma gael eu hadnabod a'u harestio yn gyflym ac rydw i yn apelio ar y gymuned i helpu'r heddlu mewn unrhyw ffordd posib."