Newyddion S4C

Colli cyswllt bws yn 'ergyd i bobl Blaenau Ffestiniog'

Newyddion S4C 22/02/2023

Colli cyswllt bws yn 'ergyd i bobl Blaenau Ffestiniog'

Mae cyfarfod wedi ei drefnu ym Mlaenau Ffestiniog, wedi i wasanaeth bws poblogaidd ddod i ben

Mae pryderon yn lleol y bydd colli'r cysylltiad rhwng y dref a Llandudno yn ergyd fawr i'r ardal.

Yn ôl y cynghorydd lleol mae pobl yr ardal yn ddibynnol ar y cyswllt.

“Ma'n ergyd fawr iawn i bobl Blaenau,” meddai Elfed Wyn ab Elwyn, sydd wedi trefnu'r cyfarfod brys nos Fercher. 

“Ma' gennoch chi blant a phobl ifanc yn mynd i Ysgol Dyffryn Conwy bob bore ac isio dod adref wedyn wrth gwrs. Wedyn ma' gennoch chi bobl sy'n mynd i ysbyty Llandudno, bobl sy'n mynd i negesa, a phobl sydd jyst isio mynd am dro bach.

“Ond hefyd ma' gennoch chi weithwyr sydd yn mynd o Blaenau ac yn dod fewn i Blaenau, ma'n mynd i effeithio ar pawb.”

'Argyfwng'

Mae hi’n daith o dros 50 milltir un ffordd o Landudno i Flaenau Ffestiniog.

Cwmni bysiau Llew Jones sy’n darparu’r gwasanaeth, ac mae'r llwybr yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cwmni yn dweud eu bod nhw wedi ceisio cynnal y gwasanaeth ac wedi gofyn am gymorth, ond am na ddaeeth y cymorth hwnnw, ac felly nad oedd ganddyn nhw ddewis ond dod a’r gwasanaeth i ben.

Mae nifer o wasanaethau llai wedi eu sefyflu’n lleol ond mae nhw’n dweud na fydd rhain cystal â gwasanaeth y T19. 

Yn ôl Cymdeithas Bysiau Cymru mae’n enghrhaift o’r hyn sy’n wynebu cwmniau bysus ar draws y wlad.

"Un enghraifft ydy hwn o beth mae cwmnïau bysus, yn enwedig y rhai lleiaf a'r rhai annibynnol sydd mewn perchnogaeth i deulu, beth ma' nhw'n wynebu ledled Cymru," meddai John Pockett o'r gymdeithas. 

"Mae yna argyfwng arnyn nhw a rwy'n ofni os nad yw pethau'n newid o ran y llywodraeth, mwy o hyn gwelwn ni."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn siomedig bod y gweithredwr wedi penderfynu tynnu’n ôl o weithredu’r gwasanaeth T19.

 “Rydym wedi darparu £48 miliwn o gyllid bws brys i’r diwydiant yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gynnal gwasanaethau bysiau yng Nghymru a thua £150m ers dechrau’r pandemig.

 “Mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn gweithio gyda CBS Conwy i sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol yn cael eu cynnal ar gyfer cymunedau gwledig ar hyd y llwybr ac mae hyn yn cynnwys gwelliannau pellach i gynllun fflecsi Dyffryn Conwy, fel dewis amgen i’r gwasanaeth T19 a dynnwyd yn ôl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.