
CPD Merched Dinas Caerdydd gyda chyfle i greu hanes yng Nghwpan yr FA
CPD Merched Dinas Caerdydd gyda chyfle i greu hanes yng Nghwpan yr FA

Mae gan Glwb Pêl-droed Merched Dinas Caerdydd y cyfle i greu hanes trwy gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan yr FA ddydd Sul.
Y clwb yw'r unig glwb o'r bedwaredd haen sydd yn parhau yn y gystadleuaeth, ac maent yn gobeithio creu hanes trwy gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf.
Nid yw'r clwb o Gaerdydd yn gysylltiedig gyda chlwb yr Adar Gleision o'r brifddinas.
CPD Lewes o Sussex yw'r gwrthwynebwyr, sydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth, sef yr ail haen.
Er y bydd sicrhau buddugoliaeth yn her, mae'r clwb eisoes wedi ennill yn erbyn gwrthwynebwyr o gynghreiriau uwch gan gynnwys rhoi crasfa i Burnley yn y rownd ddiwethaf.
Wrth i'r gêm agosáu, mae'r chwaraewyr yn edrych ymlaen at y gic gyntaf.

Mae Emily Poole yn chwaraewraig canol cae ac wedi chwarae i'r clwb ar hyd ei gyrfa gyfan.
Dywedodd fod gan y clwb gyfle mawr i greu hanes ac adeiladu ar y canlyniad yn erbyn Burnley.
"Mae'n gwych. Mae'n cyfle enfawr i ni fel clwb, i ni fel chwaraewyr. Roedd y rownd diwethaf yn whirlwind a o'dd y gêm yn wych.
"Ni mor cyffrous ac yn edrych ymlaen i'r penwythnos rili."
Nid dyma'r tro cyntaf i'r clwb gyrraedd y bumed rownd. 10 mlynedd yn ôl fe wnaeth y clwb golli 3-1 i Birmingham.
Eleni, y gobaith yw y bydd Emily a'r clwb yn sicrhau canlyniad gwell, ac mae ganddi'r ffydd y gallai hynny ddigwydd.
"Mae tymor yma wedi bod yn dda. Ni wedi bod yn neud yn dda a ni'n gobeithio neud yn well tymor nesa'.
"Cyn i fi mynd i prifysgol roedd ni wedi cyrraedd y fifth round a, ond mae'r experience yn hollol wahanol.
"Ni jyst yn completely different place this year a ni mor cyffrous ac yn edrych ymlaen i gobeithio ennill."
Uchafbwynt
Chwaraewr arall sydd wedi chwarae i'r clwb trwy gydol ei gyrfa yw Kate Wood.
Mae hi wedi bod yn chwarae i CPD Merched Dinas Caerdydd ers pan oedd hi'n 12 oed, ac fe gafodd ei dewis i chwarae i'r tîm cyntaf am y tro cyntaf y llynedd, tra'n gwneud ei arholiadau TGAU.
Mae hi'n dweud mai dyma fydd uchafbwynt ei gyrfa hyd yn hyn.
"Byddwn i byth wedi disgwyl e i fod yn onest, mae'n wych gallu cael ar y lefel yma yn erbyn timau mor dda, ac yn cael tîm mor dda ni gyda felly mae'n profiad da iawn.
"Byddai bendant yn cofio hyn am byth a fi'n credu bod e'n wych i gael y cyfle i bod yn yr FA Cup. Bydden i byth wedi disgwyl e felly ma' fe'n cyfle arbennig."
Gwireddu'r her
Ar ddechrau'r tymor roedd chwaraewyr y clwb wedi herio'r rheolwr, Jamie Phillip i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan yr FA ac ennill dyrchafiad i'r gynghrair uwch.
Ar hyn o bryd mae'r clwb yn ail yn y gynghrair a 90 munud i ffwrdd o sicrhau eu lle yn wyth olaf Cwpan yr FA.
Byddai cyrraedd y ddau nod yn golygu tymor llwyddiannus i'r rheolwr.
"Roedden ni'n siarad cyn y tymor ac roedd y chwaraewyr wedi rhoi targed i mi o gyrraedd wyth olaf Cwpan yr FA, a gwybod ein bod ni 90 munud i ffwrdd o fod 'na bach yn swreal.

"Ond mae'n enfawr ac os i ni'n gallu gwneud e, ni'n haeddu bod 'na. Mae'r daith wedi bod yn anghredadwy, dyw e ddim wedi bod yn fuddugoliaethau lwcus neu ni wedi crafu trwyddo i'r rownd nesaf.
"Ni wedi dominyddu bob gêm o Bridgewater i Burnley, felly i ni'n haeddu bod yma a gobeithio bod ni'n gallu gwneud yr un peth yn erbyn Lewes."
I Jamie, y gynghrair yw'r brif flaenoriaeth, ac er bod gêm mor bwysig yn y gwpan, nid yw'r paratoadau wedi newid ac mae'r awch i ennill yn parhau fel yr arfer.
"Ni eisiau ennill bob dim. Ni eisiau ennill Cwpan yr FA a ni eisiau ennill dyrchafiad i'r gynghrair uwch. Felly mae'r gynghrair yn cymryd blaenoriaeth, ni wedi cael rhediad da yn y cwpan hyd at hyn, ond ni heb orffen eto.
"Ni eisiau ennill pob gêm ni'n chwarae, boed hynny'n gêm gwpan, gêm gyfeillgar neu gêm gynghrair, a hyd at hyn ni wedi neud 'na ymhob gêm ni wedi chwarae.
"Mae'r paratoadau wedi bod yn dda a gobeithio ein bod ni gallu ennill eto ddydd Sul."