Newyddion S4C

Cynllun Gorsaf Drenau Beddgelert

Cyflwyno cais i adeiladu gorsaf drenau newydd ym Meddgelert

NS4C 21/02/2023

Mae cynllun ar droed i adeiladu gorsaf drenau newydd ym Meddgelert.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn cais llawn gan Gwmni Rheilffordd Ffestiniog i adeiladu gorsaf newydd ar linell Rheilffordd Eryri.

Yn ogystal â chodi gorsaf newydd, mae'r cynllun yn cynnwys swyddfa docynnau newydd, caffi, seddi tu mewn a thu allan, a man aros dan do.

Mae safle’r orsaf wedi ei leoli ar arglawdd ar orllewin y pentref, tu ôl i westy’r Royal Goat.

Does dim dyddiad wedi ei nodi ar gyfer cwblhau'r gwaith. 

'Pentref poblogaidd'

Dywedodd Paul Lewin, rheolwr cyffredinol a chyfarwyddwr Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri: “Mae Beddgelert yn bentref poblogaidd gyda thwristiaid ac mae ein teithwyr angen rhywle dan do lle allan nhw gadw’n sych wrth aros am drên.

"Mae’r cynllun yn cynnwys caffi bychan fel bod pobl yn gallu prynu byrbrydau. Nid tynnu masnach i ffwrdd o fusnesau’r pentref yw ein bwriad, ond i gwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid a chael y ddarpariaeth i gynnig panad o de iddyn nhw tra eu bod yn aros yn yr orsaf.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.