Newyddion S4C

Peilot Cwis Bob Dydd wedi bod yn llwyddiannus, yn ôl datblygwyr yr ap

21/02/2023

Peilot Cwis Bob Dydd wedi bod yn llwyddiannus, yn ôl datblygwyr yr ap

Wrth i Cwis Bob Dydd gymryd seibiant, mae datblygwyr yr ap wedi dweud bod y peilot dros yr 16 wythnos ddiwethaf wedi bod yn llwyddiannus.

I nifer o bobl ar draws Cymru, mae’r gêm, sydd yn herio defnyddwyr i ateb 10 cwestiwn amrywiol mor gyflym â phosib, wedi dod yn arferiad dyddiol.

Mae'r cwis wedi ei gomisiynu a'i gyd-ariannu gan S4C a Llywodraeth Cymru.

Ar ôl cyfnod agoriadol o 12 wythnos, penderfynodd S4C i ymestyn y peilot am bedair wythnos ychwanegol, hyd at ddydd Sul 19 Chwefror.

Dywedodd Aled Parry o TinInt a chynhyrchydd Cwis Bob Dim: "Bydd chwaraewyr yn derbyn nodyn neu push notificiaction unwaith mae dyddiad wedi ei chadarnhau ar gyfer cychwyn yr ail gyfres.

“Mi fydd na seibiant am o leiaf mis, ac yn ystod y cyfnod mi fyddwn ni’n gweithio allan beth sydd ‘di bod yn llwyddiannus a beth sydd heb weithio mor dda.

“Beth mae rhai yn teimlo yw fod o’n rhy Gymreig a bod gormod o bwyslais ar hanes neu iaith, a be ydan ni’n awyddus i wneud ydi denu cynulleidfa efallai sydd ddim mor hyderus gyda safon eu hiaith, a dod a nhw i mewn hefyd.”

Rhan o fywyd

Daeth y syniad am yr ap yn sgil llwyddiant y cwis yng Ngwlad y Basg, ac mae’n rhan o'r trend diweddar o ddarlledwyr yn lansio cwis eu hunain, fel Triviaverse gan Netflix.

Ychwanegodd Aled: “Be ‘da ni wedi darganfod ydi fod y gynulleidfa adref yn licio chwarae’r ap, ac maen nhw hefyd yn licio creu cynghreiriau gyda’i ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr. Mae hwnna wedi bod yn beth rili diddorol.

“Mae o di dod yn rhan o’i bywyd dyddiol ac maen nhw’n rili mwynhau. Ond y saib rhwng y gyfres yma a’r nesaf ydi’r prawf.

Yn ôl Aled, mae bron iawn i 7,000 wedi ymaelodi hefo’r ap.

“Ddaru ni gychwyn ar ddim byd, ac maen dipyn o her i gael pobl i lawrlwytho ap a denu cynulleidfa newydd drosodd,” meddai.

“Be oedd yn ddiddorol oedd, mae pobl sy’n chwarae ac yn mwynhau wedyn yn denu eu ffrindiau neu aelodau eu teulu nhw. Mae ‘word of mouth’ wedi bod yn arbennig o bwysig ar gyfer llwyddiant yr ap.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.