Saith wedi eu carcharu yn sgil digwyddiad treisgar mewn mynwent

Mae saith o bobl wedi eu dedfrydu i garchar ar ôl i nifer gael eu hanafu mewn mynwent yn Nhreforys Abertawe, fis Awst 2022.
Cafodd y saith eu dedfrydu i gyfanswm o 13 blwyddyn a saith mis o dan glo.
Roedd y cyhuddiadau yn ymwneud ag achosi anhrefn treisgar, a bod ym meddiant arf peryglus.
Mae eu hoedran yn amrywio o 16 i 58 oed.
Mae Jeffrey Tawse, James Coffey a John Coffey yn dod o ardal Tredelerch yng Nghaerdydd, a Patrick Joseph Murphy, Andrew John Thomas, John Joe O'Brien a Martin John O'Brien yn dod o Lanelli, Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Heddlu De Cymru, Mike Owens: "Roedd hwn yn ddigwyddiad ofnadwy a fyddai wedi dychryn pobl oedd yn ymweld â'r fynwent yng nghanol y dydd.
"Roedd y grŵp, oedd yn adnabod ei gilydd, wedi cyflawni troseddau treisgar ac yn defnyddio arfau yn erbyn ei gilydd.
"Dwi'n gobeithio bod y ddedfryd hon yn rhoi sicrwydd i'r gymuned nad yw'r math yma o ymddygiad yn cael ei ganiatáu."