Un o actorion S4C yn ennill dros £55,000 ar y loteri

Mae'r actor Dion Davies wedi ennill £55,086 ar yr EuroMillions, ar ôl iddo brynu'r tocyn lwcus cyn y Nadolig tra roedd yn actio mewn panto yn Aberdaugleddau.
Mae'r actor yn wyneb cyfarwydd ar S4C ac wedi actio mewn nifer fawr o gyfresi a dramâu - yn eu plith Rownd a Rownd, Tair Chwaer, Y Glas ac Amdani.
Roedd Dion Davies yn clirio ei gar, cyn mynd ag e i'w olchi, pan ddaeth o hyd i'r tocyn.
Roedd e'n perfformio yn ‘Sleeping Beauty’ yn Theatr Y Torch yn Aberdaugleddau ar y pryd.
Mae Dion wedi bod yn perfformio mewn pantomeim yno bob blwyddyn ers 2010.
Gan na sylweddolodd ei fod wedi ennill pan gafodd y rhifau lwcus eu cyhoeddi ar 20 Rhagfyr, cyhoeddodd y Loteri Cenedlaethol fis Ionawr nad oedd unrhywun wedi hawlio'r tocyn buddugol.
Dywedodd Dion: “ Roedd angen i fi lanhau'r car y tu mewn ac allan. Roedd mewn cyflwr ofnadwy, ar ôl sawl taith, felly fe benderfynais fynd ag e at lanhawr car proffesiynol.
"Gofynnodd y gweithiwr i mi gael gwared â phopeth a oedd yn perthyn i mi, cyn iddo ddechrau ar y gwaith glanhau, rhag ofn iddo daflu rhywbeth gwerthfawr !
"Rydw i mor falch iddo wneud hynny !
“ Fe es i â'r tocyn i'r Spar yn Nhregaron, a dywedodd y dyn yn y siop bod angen i fi ffonio'r rhif ar y tocyn, gan ei fod yn un buddugol !"
Fe ddychwelodd Dion adref at ei wraig Ifana, ac fe ffoniodd y Loteri Cenedlaethol i hawlio'r wobr.
Cafodd y tocyn buddugol ei ddarganfod gan Dion ddydd Iau, 2 Chwefror, chwe wythnos ar ôl i'r rhifau gael eu tynnu, a phythefnos wedi'r cyhoeddiad nad oedd unrhyw un wedi hawlio'r tocyn, gan annog chwaraewyr i wirio eu tocynnau.
Mae gan Dion ac Ifana fab 15 oed ac maen nhw'n bwriadu mynd ar wyliau i'r Eidal eleni, i wario rhan o'r enillion.
Llun: Loteri Cenedlaethol