Newyddion S4C

Nicola Bulley

'Artaith' partner Nicola Bulley wedi i gorff gael ei ddarganfod

NS4C 20/02/2023

Mae partner Nicola Bulley wedi disgrifio'r "artaith" y mae'r teulu yn ei ddioddef ar ôl i gorff gael ei ddarganfod dydd Sul.

Cafwyd hyd i'r corff gan unigolyn oedd yn cerdded ei gi ar lan yr Afon Wyre. Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Mewn datganiad i Sky News, dywedodd partner Ms Bulley, Paul Ansell "nad oedd geiriau" yn bodoli ar hyn i bryd, dim ond "artaith".

"Rydym gyda'n gilydd. Rhaid i ni gyd fod yn gryf", ychwanegodd.

Diflannodd y fam 45 oed ar 27 Ionawr tra'n mynd â'i chi am dro ar lan afon ym mhentref St Michael's on Wyre.

Mewn datganiad dydd Sul, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaerhirfryn: “Fe gawsom ein galw am 11.36 y bore ma yn dilyn adroddiadau bod corff yn Afon Wyre.

“Mae’r tîm chwilio tanddwr wedi ymweld â’r safle, wedi mynd i’r dŵr ac yn drist iawn wedi tynnu corff oddi yno.

“Dyw’r corff heb ei adnabod yn ffurfiol ar hyn o bryd felly nid yw’n bosib dweud ai dyma yw Nicola Bulley ar hyn o bryd.

“Mae teulu Nicola wedi cael gwybod ac rydyn ni’n cydymdeimlo â nhw ar adeg mor anodd.

“Rydym yn gofyn i bobol barchu eu preifatrwydd.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.