Rhaglen newydd i drafod y celfyddydau ar Radio Cymru
Ym mis Ebrill bydd rhaglen newydd sbon ar brynhawn dydd Sul ar BBC Radio Cymru yn trin a thrafod y celfyddydau.
Yr awdur a’r actor Ffion Dafis, fydd yn cyflwyno, a daw’r rhaglen ddwy awr wythnosol â chyfle i adlewyrchu a thrafod bywyd celfyddydol Cymru a thu hwnt ar draws pob genre.
Daw wrth i Hywel Gwynfryn gyhoeddi y bydd yn camu'n ôl o gyflwyno ei raglen wythnosol.
Ym mis Medi y llynedd roedd nifer ym myd y celfyddydau wedi beirniadu penderfyniad BBC Radio Cymru i ddod â'r rhaglen gelfyddydol Stiwdio i ben.
Y rhaglen a oedd yn cael ei chyflwyno gan Nia Roberts oedd yr unig un ar y pryd a oedd wedi'i neilltuo i drafod y celfyddydau yng Nghymru.
Wrth drafod y rhaglen newydd dywedodd Ffion Dafis: “Dyma raglen fydd yn adlewyrchu cyffro a hwyl y cynnyrch celfyddydol yng Nghymru yn ei holl amrywiaeth.
“Dwi wir yn edrych ymlaen i gael mynd dan groen pethau a rhannu’r cynnwys anhygoel gyda chynulleidfa wych Radio Cymru.
“Byddwch yn barod am arlunwyr, dylunwyr, artistiaid drag, digrifwyr, perfformwyr hip hop, Beirdd a Chantorion a mwy!”
Bydd y newidiadau i amserlen Radio Cymru yn weithredol o’r 2il o Ebrill.
‘Esblygu’
Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru bod y rhaglen newydd yn “adlewyrchu’r celfyddydau yn rhan greiddiol o beth mae Radio Cymru wedi ei wneud dros y blynyddoedd ac yn rhan o’n D.N.A. ni”.
“Felly mae’r rhaglen newydd yma, yn oriau brig y gwasanaeth, yn gam pwysig arall ymlaen,” meddai.
“Ac wrth groesawu Ffion i deulu cyflwynwyr Radio Cymru, mae’n diolch yn fawr i Hywel Gwynfryn wrth i’w berthynas o gyda’r orsaf esblygu unwaith eto.
“Mi ydw i’n edrych ymlaen yn fawr i glywed cynnyrch Hywel y cynhyrchydd, tra’n parhau i glywed ei gyfraniadau yn fyw ar y tonfeddi.
“Yn barod, mae o wedi llwyddo i gloddio aur gwerthfawr o archif BBC Cymru ar raglen Bore Cothi.”
Cyfrannu
Bydd Hywel Gwynfryn yn parhau i ddarlledu ar donfeddi Radio Cymru tra hefyd yn cychwyn trywydd newydd wrth gynhyrchu rhaglenni dogfen.
Bydd un yn olrhain hanes y bardd o Fôn, Goronwy Owen a’r llall yn edrych ar hanes Derwen-gam yng Ngheredigion.
Dywedodd Radio Cymru y bydd Hywel Gwynfryn yn parhau i gyfrannu at raglen Bore Cothi a chynhyrchu Swyn y Sul: Elin Manahan Thomas.
Yn ddiweddarach eleni bydd yn cyflwyno a chynhyrchu ei raglen Nadolig ei hun ar Radio Cymru.
Wrth siarad er ei raglen heddiw, dywedodd: "Dwi wastad wedi meddwl am Radio Cymru fel un teulu mawr a chitha yn rhan bwysig o'r teulu hwnnw ers sefydlu'r gwasanaeth yn 1977.
"Ond cyn cychwyn ar fy nhaith yn y byd darlledu yn 1964 wnes i erioed feddwl byswn dal i deithio trigain mlynedd yn ddiweddarach.
"Dwi wedi cael cyfle fwy nag unwaith i droi i'r chwith a'r dde oddi ar brif ffordd fy ngyrfa i ysgrifennu, cynhyrchu yn ogystal a chyflwyno a holi, a rwan dwi'n cael cyfle unwaith eto i wneud hynny.
"Mae na dro arall ar y ffordd... ond fyddai'n dal i gyfrannu i'r gwasanaeth yma mae gen i gymaint o ddyled iddo fo."