Arestio chwech ar ôl darganfod cyrff 18 o bobl mewn lori ym Mwlgaria

Mae chwech o bobl wedi eu cyhuddo o fasnachu mewn pobl ar ôl i gyrff 18 o fudwyr o Afghanistan gael eu darganfod mewn lori ger Sofia, prifddinas Bwlgaria.
Roedd 52 o bobl yn y lori ac fe lwyddodd 34 i oresgyn. Roedd un o’r rhai fu farw yn blentyn.
Dywedodd swyddogion fod y gyrrwr wedi gwrthod atal y cerbyd er gwaethaf y sŵn cyson ac uchel gan y bobl oedd mewn mannau cudd yn y lori.
Mae pump o’r rhai sydd wedi eu cyhuddo yn y ddalfa ond mae un arall wedi ffoi.
Roedd y gyrrwr a’i gymar ymhlith y rhai sydd wedi eu cyhuddo.