Newyddion S4C

Paganiaid 'ar gynnydd' am eu bod nhw'n agored i gymunedau LHDTC+

ITV Cymru 19/02/2023

Paganiaid 'ar gynnydd' am eu bod nhw'n agored i gymunedau LHDTC+

Mae grŵp o Baganiaid wedi dweud mai derbyniad o’r gymuned LHDTC+ yw’r rheswm tu ôl i’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n perthyn i'r grefydd.  

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, mae yna 74,000 o Baganiaid yng Nghymru a Lloegr - 17,000 yn fwy ers 2011. 

Mae Paganiaeth yn grefydd hynafol gyda ffocws ar draddodiadau Celtaidd, ysbrydolrwydd, a’r byd naturiol. Mae’n un o nifer o grefyddau sydd wedi gweld cynnydd mewn aelodaeth, gan gynnwys Wicca a Shamaniaeth. 

Yn yr un cyfrifiad, cafodd ei datgelu nad oedd Cristnogaeth bellach yn grefydd fwyafrifol yng Nghymru a Lloegr, gyda 46% o bobl yn unig yn dweud eu bod nhw’n Gristnogol. 

Mewn rhaglen ddogfen i ITV Cymru, fe wnaeth y gyflwynwraig Siân Adler ymchwilio i’r rhesymau dros y cynnydd mewn Paganiaid. 

Dywedodd Moss, pagan o Ynys Môn: “Mae'r byd yn dod yn fwy ‘cwiar’, gan fod mwy o bobl yn hapus i fod pwy ydyn nhw.”

Image
Moss
Fe wnaeth Moss sylweddoli ei fod yn hoyw yn 12 oed - profiad wnaeth “frifo’i enaid”.

Yn ôl Moss, nid yw wedi wynebu rhagfarn yn seiliedig ar ei rywioldeb ers ymuno, a dywedodd dyna “ran fach o’r rheswm pam ry’n ni wedi gweld Paganiaeth yn tyfu”.

Yn y ddogfen, eglurodd Moss ei fod wedi troi at Baganiaeth ar ôl gadael y sefydliad Tystion Jehofa. 

“O’m profiad i, os wyt ti’n cael dy eni’n hoyw, nid oes lle i ti fan’na, ond os wyt ti’n gadael, rwyt ti’n colli popeth,” meddai. 

Fe wnaeth Moss sylweddoli ei fod yn hoyw yn 12 oed - profiad wnaeth “frifo’i enaid”.

'Cariad'

Pan ddechreuodd Moss ddatgelu ei rywioldeb yn 19 oed, dywedodd nad oedd aelodau o’i grefydd, Tystion Jehofa, yn gefnogol. 

“Y tro cyntaf i mi ddweud wrth fy nheulu, fe wnaethon nhw i gyd grïo,” meddai. 

O ganlyniad, dechreuodd iechyd meddwl Moss waethygu. 

Dywedodd: “Roeddwn i mor isel, roeddwn i’n gofyn y cwestiwn…ydy o werth trïo aros efo’r grefydd a lladd fy hun ond marw’n ffyddlon, neu adael a byw?”

Fe wnaeth e egluro fod rhai aelodau o’i deulu “wedi’i ymddieithrio” am tua blwyddyn, ond eisoes wedi ail-gysylltu ers iddo adael y grefydd a dod yn Pagan. 

Dywedodd Moss fod ei fywyd “wedi newid yn llwyr…mae gen i gariad, a dwi’n gallu bod pwy ydw i”.

'Goddefgarwch'

Mewn datganiad ymatebol, dywedodd sefydliad y Tystion Jehofa:

“Rydym yn cydnabod fod gan bob person yr hawl i ddewis sut i fyw. Ry’n ni’n dilyn cyngor y Beibl i drin pawb â pharch ac urddas, gan gynnwys y rhai all fod yn wahanol i ni ein hunain.

“Yn unol â’r geiriau, ‘pob peth yr ydych am i ddynion ei wneud i chwi, rhaid i chwithau hefyd ei wneud iddynt’ (Matthew 7:12), estynnwn at eraill yr un goddefgarwch yr ydym yn gwerthfawrogi ei dderbyn ganddynt.”

Gwyliwch y ddogfen gyfan, Siân â’r Paganiaid, ar YouTube Hansh, S4C a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.