Newyddion S4C

Chwilio am drysor

Newid cyfraith er mwyn 'cadw mwy o drysorau mewn amgueddfeydd'

NS4C 18/02/2023

Mae gweinidog Llywodraeth y DU wedi galw am newid yn y gyfraith er mwyn sicrhau bod mwy o drysorau yn cael eu cadw mewn amgueddfeydd. 

Yn ôl y Gweinidog Treftadaeth, Yr Arglwydd Parkinson, mae geiriad presennol y Ddeddf Trysor yn golygu bod nifer o drysorau yn cael eu gwerthu yn lle eu harddangos mewn amgueddfeydd. 

Wrth i fwy o bobl ddangos diddordeb mewn chwilio am drysorau, mae yna beryg y bydd rhagor o wrthrychau yn cael eu colli, medd y gweinidog. 

Bwriad y newid yn y ddeddfwriaeth yw ehangu'r diffiniad o beth yw trysor. 

Ar hyn o bryd, mae rhywbeth yn cael ei adnabod fel trysos os yw'n 300 o flynyddoed oed neu fwy ac wedi ei greu o fetal gwerthfawr, fel aur neu arian, neu yn rhan o gasgliad mawr. 

O dan y newidiadau, fe fydd y diffiniad o drysor yn ehangu i gynnwys unrhyw beth sydd dros 200 o flynyddoedd oed. 

Os ydy crwner yn dyfarnu bod eitem yn drysor, mae gan amgueddfa hawl i'w feddiannu cyn iddo gael ei werthu mewn ocsiwn. 

Dywedodd Yr Arglwydd Parkinson y bydd y newid yn sicrhau "nad yw eitemau pwysig yn cwympo trwy'r rhwyd." 

"Dywedwch fod eitem yn bwysig i hanes lleol, rhanbarthol neu genedlaethol, mae'n gallu cael ei adnabod fel trysor a'i rannu gyda'r cyhoedd mewn amgueddfa," meddai. 

"Mae'r rhan fwyaf o drysorau yn cael eu darganfod gan bobl gyffredin, felly rydym yn gweld mwy a mwy o eitemau sydd ddim yn cyrraedd y diffiniad presennol o drysor yn cael eu colli.

"Rydym eisiau sicrhau eu bod yn cael eu cadw ar gyfer amgueddfeydd, yn enwedig rhai lleol." 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.