Newyddion S4C

Achosion o fygwth dyfarnwyr pêl-droed ar lawr gwlad ar gynnydd

18/02/2023
ref

Mae dyfarnwyr pêl-droed yn galw am newidiadau ym mhêl-droed ar lawr gwlad gan ddweud fod achosion o gam-drin corfforol a geiriol, a bygythiadau yn erbyn swyddogion ar gynnydd.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i gêm rhwng Bae Cinmel a Rhuddlan ym mis Rhagfyr y llynedd yn sgil adroddiadau o gam-drin a bygythiad i ddyfarnwr, gyda’r gêm yn cael ei gohirio.

Mae Newyddion S4C wedi siarad gyda dau ddyfarnwr sydd yn mynegi pryderon am ddyfodol pêl-droed ar lawr gwlad.

Mae'r ddau yn dweud y gallai camdriniaeth gan chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion clybiau, “sydd yn digwydd pob wythnos erbyn hyn”, droi dyfarnwyr di-brofiad i ffwrdd o’r gamp.

Maent hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â’r rôl gynyddol mae cefnogwyr yn chwarae mewn achosion o gam-drin, gydag enghreifftiau o gefnogwyr yn mynd i wynebau dyfarnwyr ar ôl gemau i’w bygwth gyda thrais, a rhegi a gweiddi arnynt.

‘Neb yna i warchod ni’

Dywedodd un dyfarnwr profiadol o ogledd Cymru, oedd ddim am ei enwi, bod angen i gorfforaethau pêl-droed rhanbarthol roi cosbau mwy llym i glybiau sydd yn troseddu.

“Mae dyfarnwyr yn cael gymaint o abuse efo pobol yn gweiddi a rhegi arna chdi, yn galw chdi bob enw dan yr haul, a dwyt ti ddim yn gweld bai arnyn nhw os di nhw ddim isho gwneud gemau dim mwy," meddai.

"Ar ôl un gêm neshi ddyfarnu, roedd chwaraewyr un tîm yn sefyll o gwmpas fi i roi llwyth o stic i fi a yn stopio fi rhag mynd i fewn i’r ystafell newid, a doedd hynny ddim yn dderbyniol.

“Dim robots ydan ni. Hyd yn oed yn y Premier League, mae VAR yn cael pethau’n anghywir. Felly pa siawns sydd gan ddyfarnwr sydd ar ben ei hun ar gae ar brynhawn dydd Sadwrn i gael bob dim yn iawn?

“Ar lefel haen pedwar a phump, mae ‘na rhywbeth yn digwydd pob wythnos dyddiau yma a does ‘na neb yna i warchod nhw.

‘Da ni yn y gogledd angen cefnogaeth gan y North Wales Coast FA a'r North East Wales FA. Ella fe geith rai clybiau ddirwy sydd wedi ei ohirio, ond dydi hynny ddim yn ddigon ac mae’r clybiau yn parhau efo’r un ymddygiad. Mae'n rhaid i ddyfarnwyr gael mwy o backing.”

‘Mwy eithafol’

Mae Mathew Jones o Gaeathro wedi bod yn dyfarnu gemau pêl-droed ers naw mlynedd ac yn is-gadeirydd ar Gymdeithas Dyfarnwyr Eryri.

Dywedodd: “Er bod 99% o gemau yn mynd ymlaen heb ddim ffwdan, mae pethau yn mynd yn lot fwy eithafol nag oeddan nhw o’r blaen, hyd yn oed yma yn y gogledd.

“Dwi ‘di clywed enghraifft sydd ‘di digwydd i ddyfarnwr lle mae 'na aelodau clwb wedi bygwth ei drywanu fo ar ôl gêm.

Oedd 'na achos arall ryw dair blynedd ôl lle oedd dyfarnwr yn mynd i’w gar ar ôl gêm a chefnogwyr i gyd rownd y car yn gwthio fo. Dwi erioed di cael ddim byd fel hynny, ond dwi ‘di cael o leiaf tri achlysur lle mae ‘na rywun yn confrontio fi ac yn ymddwyn mewn ffordd fygythiol.

“I bobl lai profiadol sydd heb fod drwy hyn o’r blaen, maen nhw’n teimlo’r bygythiad. Mae 'na rai sy’n dweud, ‘tydi hyn ddim werth o, dwi am fynd i wneud rhywbeth gwahanol ar bnawn dydd Sadwrn’. Dim reff, dim gêm, mae o mor syml â hynny.

“Os wyt ti’n teimlo fel bo chdi mewn peryg mewn gêm, yr unig beth fedri di wneud ydi stopio’r gêm ar unwaith, cerdded i ffwrdd o’r cae a dweud ‘sori, dwi ddim yn fodlon derbyn hyn’ a rhoi’r adroddiad i mewn wedyn i’r corff rhanbarthol, sydd yn delio efo’r cwyn. 

“Mae’n rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gymryd yr awenau a dod i fyny hefo strategaeth i ddod â hyn i ben. Os da ni isho newid, mae’n rhaid iddyn nhw arwain y ffordd. Os nad ydy clwb yn barod i ddilyn set o reolau sydd wedi ei gytuno ledled y wlad, dylai bod nhw ddim yn rhan o unrhyw gynghrair."

‘Profiad brawychys’

Dywedodd Bryan Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru: “Mae ‘na lot mawr o gam-drin ar lafar tuag at ddyfarnwyr yng Ngogledd Cymru. Dw i heb weld unrhyw ymddygiad bygythiol a does 'na ddim wedi ei hadrodd eleni, ond mae’r rhegi a gweiddi yn digwydd yn aml.

“Mae dyfarnwyr ar ben eu hunain hefo 22 o chwaraewyr o’u cwmpas ac mae’n gallu bod yn brofiad eithaf brawychus, ac mi ydw i’n edmygu nhw am beth maen nhw’n wneud. Fel Cymdeithas bêl-droed, mi rydan ni’n gwneud ein gorau i’w cefnogi mewn materion disgyblu.

“Mae’n rhaid i glybiau fod yn gyfrifol am eu cefnogwyr. Mae’r mwyafrif yn cymryd cyfrifoldeb ac yn ymddwyn yn barchus, ond mae ‘na rhai sydd ddim.

"Dw i yn erfyn ar ddyfarnwyr i stopio’r gêm ar unwaith os maen nhw’n cael eu cam-drin. Mae’r neges angen bod yn glir, bod ymddygiad fel hyn yn annerbyniol.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.