Gweithwyr ambiwlans i streicio eto ar ôl gwrthod cynnig tâl diweddaraf

Bydd tua 1,500 o weithwyr ambiwlans yng Nghymru yn mynd ar streic ddydd Llun ar ôl gwrthod cynnig tâl gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd undeb y GMB fod 66% o'i haelodau wedi gwrthod y cynnig, a oedd yn cynnig codiad cyflog o 3% ychwanegol i'r cynnig presennol.
Dywedodd Swyddog Cymru yr undeb, Nathan Holman, fod hwn yn "ganlyniad clir ac fod aelodau wedi cael dweud eu dweud ar y cynnig.
"Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru am gynnal y trafodaethau, ond os mai dyma eu cynnig olaf, mae'n rhy isel ar gyfer ein haelodau.
"Fwy nag erioed, mae angen datrysiad ar draws y DU o ran y cyflogau isel sydd wedi effeithio ein gwasanaethau iechyd ac ambiwlans.
'Siomedig'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig bod y GMB wedi gwrthod ein cynnig cyflog gwell. Mae’r cynnig yn un cryf yn ein barn ni – mae’n cyfateb i 3% yn ychwanegol, a 1.5% ohono’n rhan o’r cyflog bob blwyddyn. Mae hyn ar ben y codiad cyflog cyfartalog o 4.5% ar gyfer 2022-23, sydd wedi’i ddyfarnu’n barod.
"Dyma'r cynnig gorau y gallwn ei wneud o fewn ein setliad cyllido presennol. Ry’n ni wedi tynnu ynghyd yr holl arian sydd ar gael o bob rhan o Lywodraeth Cymru i wneud y cynnig gwell hwn i geisio datrys yr anghydfod."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth San Steffan am ymateb.