Profi cerbydau hunan-yrru ger Aberystwyth

Fe fydd cerbydau hunan-yrru yn cael eu profi mewn cyfleuster newydd yng ngogledd Ceredigion.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn paratoi darn o dir gydag 11 cilomedr o draciau ger Cwmystwyth er mwyn rhoi prawf ar dechnoleg newydd sy’n hunan-yrru.
Fe fydd rywfaint o'r profi hefyd yn digwydd yn nhref Aberystwyth.
Yn ogystal â cheir fe fydden nhw hefyd yn profi offer ffermio ac offer gwasanaethau brys sy’n teithio yn annibynnol.
Bydd y safle'n cynnwys glaswelltir, tir mawnog, creigiau a mwd a bydd modd i gerbydau deithio i uchder o hyd at 600 metr uwchben lefel y môr.
Dywedodd Dr Frédéric Labrosse o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth bod gyrru annibynnol yn un o “ddatblygiadau technolegol arloesol mwyaf cyffrous y blynyddoedd diwethaf”.
“Gellir ei ddefnyddio mewn sawl maes lle nad yw’n ddiogel i anfon gyrwyr dynol neu lle gall defnyddio systemau wedi’u hawtomeiddio ryddhau amser i yrwyr dynol,” meddai.
"Mae'r blynyddoedd i ddod yn cynnig hyd yn oed mwy o botensial gyda gwaith ar y gweill ar awtomeiddio tasgau ffermio, gan gynnwys gyrru'n annibynnol ar dir anodd."
‘Arloesol’
Mae'r cyfleuster newydd yn cynnwys Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran ger Cwmystwyth a thir yn Aberystwyth a'r cyffiniau.
Dywedodd yr Athro Mariecia Fraser, Pennaeth Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran: “Rydym wrth ein boddau yn cael gweithio gyda Dr Labrosse a chydweithwyr ar y cyfleuster newydd cyffrous hwn.
“Mae’r tir yma ym Mhwllpeiran yn rhychwantu glaswelltir, mawnog, creigiau a mwd, ac fe fydd yn sicr yn rhoi prawf ar y cerbydau arloesol newydd sy’n cael eu datblygu.”
Dywedodd Prifysgol Aberystwyth eu bod nhw’n gobeithio y bydd datblygu y tir yn golygu cyfleoedd i gydweithio â phartneriaid yn y Brifysgol ac mewn diwydiant.
Mae'r cyfleusterau’n cael eu hariannu gan grant o £180,000 gan y Cyngor Ymchwil Addysg Uwch.