Preswylydd cartref gofal wedi marw o achos diffyg maeth

Golwg360
Mae Llys Crwner Gwent yng Nghasnewydd wedi clywed fod menyw oedrannus wedi marw yn 2007 ar ôl dioddef diffyg hylif, diffyg maeth a briwiau pwyso yn ystod cyfnod o bedwar mis mewn cartref gofal.
Bu farw Dorothea Hale, a oedd yn 75 oed, a oedd wedi dioddef strôc ac yn gaeth i wely neu gadair, yn yr ysbyty wythnosau ar ôl cael ei derbyn o gartref nyrsio Grosvenor House yn Abertyleri, Sir Fynwy.
Daw'r cwest yn sgil ymchwiliad 'Operation Jasmine' yr heddlu a oedd yn edrych i esgeuluso trigolion oedrannus mewn sawl cartref gofal yn ne Cymru, yn ôl Golwg360.