Galwadau i gadeirydd y BBC ymddiswyddo yn achos benthyciad i Boris Johnson

12/02/2023
Sharp / Johnson

Mae cadeirydd y BBC Richard Sharp yn gwynebu galwadau i ymddiswyddo wedi i Aelodau Seneddol ddweud ei fod wedi gwneud "penderfyniadau gwael arwyddocaol" yn ei rôl wrth sicrhau benthyciad i Boris Johnson.

Roedd pwyllgor trawsbleidiol wedi dweud y dylai Mr Sharp fod wedi "ystyried y effeithiau ei benderfyniadau" ar y BBC trwy beidio datgan ei rôl mewn helpu Boris Johnson i sicrhau benthyciad o £800,000.

Ychwanegodd y pwyllgor fod ei weithredoedd yn "gyfystyr â thorri'r safonau a ddisgwylir gan unigolion."

Nid oedd Mr Sharp wedi trefnu'r benthyciad, ond dywedodd ei fod wedi cyflwyno ei ffrind Sam Blyth, cefnder i Mr Johnson a oedd eisiau helpu'r cyn-brif weinidog gyda’i broblemau ariannol.

Mae'r adroddiad yn ategu bod methiannau Mr Sharp i ddatgan y wybodaeth yn gallu effeithio ar y BBC.

"Mae penderfyniadau Richard Sharp yn rhai gwael iawn, sydd yn gallu tanseilio hyder yn y Broses Penodiadau Cyhoeddus ac yn gallu rhwystro unigolion o geisio am fath swyddi."

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Sharp ei fod yn "difaru" peidio dweud am ei ymlyniad gyda Mr Blyth ac "yn ymddiheuro".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.