
A fydd AI yn cyfansoddi caneuon Cymraeg y dyfodol?
A fydd AI yn cyfansoddi caneuon Cymraeg y dyfodol?

Ar Ddydd Miwsig Cymru, mae pobol ledled y wlad wedi bod yn mwynhau cerddoriaeth Gymraeg o bob math.
Ond wrth edrych tua'r dyfodol, faint o rôl fydd cyfrifiaduron a deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence) yn chwarae yn y broses o gyfansoddi caneuon yn y dyfodol?
Mae rhaglenni cyfrifiadurol fel ChatGPT eisoes wedi cyffroi a chythruddo am ei allu anhygoel i greu cynnwys fel pe bai person go iawn wedi'i greu - o erthyglau newyddion i eiriau caneuon, neu farddoniaeth newydd.
Mae'n fater sy'n hollti barn. Mewn gig Dydd Miwsig Cymru i blant ysgol, fe ddywedodd Tara Bethan, sy'n perfformio dan yr enw, Tara Bandito, ei fod yn codi ofn arni.
"Y rheswm nes i ddechrau 'sgwennu a'r rheswm dwi dal yn 'sgwennu fy ngeiriau ydy fel catharsis, fel person, fel dynol ryw, i allu dadlwytho materion fy nghalon ar bapur er fy lles fy hun, a wedyn wnai adio cerddoriaeth a throi e mewn i gân, 'falle dipio fe mewn glityr, be bynnag," meddai.
"Felly i fi'n bersonol, mae'r syniad bod cyfrifiaduron neu tech yn mynd i fod yn siarad dros pobol yn fy ofni i."
'Iach i gofleidio technoleg newydd'
Yn chwarae mewn sawl band ac yn perfformio cerddoriaeth ei hun dan yr enw DD Darillo, mae Dylan Morgan yn hoff o arbrofi gyda systemau cyfrifiadurol i greu celf ar gloriau ei senglau ac i greu sŵn gwahanol yn ei gerddoriaeth.
Mae'n meddwl y gallai mwy o artistiaid ddefnyddio'r dechnoleg newydd er mwyn datblygu eu creadigrwydd.
"Dwi wedi defnyddio AI ar gyfer creu artwork i fy mand i, trwy roi'r geiriau yn yr AI ac edrych ar beth sy'n dod mas. A wedyn creu mwy o'r gwaith celf a chreu ryw feedback loop (yn ei gerddoriaeth), i weld beth sy'n dod mas a fi'n hapus iawn," meddai.
"Fi'n credu mae'n iach i gofleidio technoleg newydd, yn enwedig pan gall y dechnoleg newydd hwn herio'ch creadigrwydd eich hun."

'Rheoli'
Mae ChatGPT fel rhyw fath o gynorthwyydd personol, sy'n defnyddio bas data eang iawn i roi atebion hynod o fanwl.
A gyda'r gallu i greu geiriau caneuon newydd a chyfansoddi cerddoriaeth, mae angen cymryd gofal wrth ddefnyddio'r teclyn, yn ol un cyfansoddwr a pherfformwr.
"Dwi'n meddwl mai'r cwestiwn fan hyn ydy, ydy o llên-ladrata ar scale newydd?" meddai Elidyr Glyn, prif leisydd Bwncath.
"Mae pob AI yn dibynnu ar yr bas data sydd y tu ôl iddo fo a felly go iawn, gwaith pawb ydy o mewn ffordd.
"Mae dal dwi'n meddwl yn gwestiwn o 'ai'r Ai sydd wedi'i greu o?' Dwi ddim yn meddwl bod ni'n gallu dweud hynna os ydy o'n dibynnu ar waith pobol. Mae isio rhyw fath o reoli pwy sy'n cael defnyddio gwaith AI fel gwaith ei hunain."
Yn ôl PRS, sy'n cynrychioli hawliau artistiaid yn y byd cerddorol, maen nhw'n gweithio i asesu'r heriau a'r cyfleoedd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig.
Eu prif nod, yn ôl y grwp, yw sicrhau bod aelodau PRS yn parhau i gael eu talu am eu gwaith a'u bod yn cadw rheolaeth ar le mae eu cerddoriaeth yn cael ei defnyddio.