Ail-agor Tŵr Marcwis yn 'ail-atgyfodi hen atyniad a hanes pentref Llanfairpwll'
Ail-agor Tŵr Marcwis yn 'ail-atgyfodi hen atyniad a hanes pentref Llanfairpwll'

Mae ail-agor Tŵr Marcwis yn gyfle i 'ail-atgyfodi hen atyniad a hanes pentref Llanfairpwll', yn ôl Cadeirydd y Cyngor Bro.
Mae Tŵr Marcwis wedi bod ar gau ers 2014 yn dilyn cyngor nad oedd y grisiau mewnol yn ddiogel bellach.
Yn 106 metr o uchder, cafodd y tŵr ei adeiladu ym 1817 fel cofeb yn sgil cyfraniad Marcwis cyntaf Ynys Môn, Henry William Paget, ym Mrwydr Waterloo.
Cafodd ymgyrch ei lansio er mwyn adfer ac ailagor y tŵr yn 2017, ac ers hynny, mae bron i £1.4 miliwn o arian grant wedi ei godi.
Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ers mis Tachwedd y llynedd, gyda'r grisiau gwreiddiol sydd dros 200 mlynedd oed, yn cael eu hailosod yn unigol, a'r gobaith ydi y bydd yn ail-agor yn ddiweddarach eleni.
Gerllaw y Tŵr, mae yna fwthyn oedd yn arfer bod yn gartref, a'r gobaith ydi y bydd yn cael ei drawsnewid yn ganolfan ymwelwyr newydd gyda chaffi, man croeso a man dehongli yn adrodd hanesion y Tŵr.
Adnewyddu
Dywedodd Cynghorydd Sir Ynys Môn dros Ward Aethwy, Dyfed Jones, fod yna "waith adnewyddu yn digwydd ar y golofn ei hun sef adnewyddu'r grisia' fydd yn mynd â phobl o waelod i ben y golofn.
"Hefyd ma' 'na waith o ran adnewyddu'r bwthyn sydd yma ar y safle a'r gobaith ydi y bydd hwnnw yn ganolfan i ymwelwyr pan fyddan nhw'n cyrradd yma, yn lle i ddysgu mwy am y tŵr a chael panad gobeithio a gwario dipyn o amser yma.
Mae Cyngor Bro Llanfairpwll yno i gefnogi'r fenter, yn ôl y Cadeirydd, Stephen Edwards.
"Be' dwi'n meddwl o fod yn Gadeirdd Cyngor Bro ydi 'dan ni gyd yna yn y gymuned yn byw so does na ddim pwynt mynd yn erbyn ein gilydd - ma' rhaid i ni gyd weithio efo'n gilydd ac os ydi grwp fel hyn yn dechra' sefydlu atyniad ac atgyfodi fo, lle ni 'di gweithio efo nhw.
"Does na ddim pwynt mynd yn erbyn nhw so 'dan ni yna iddyn nhw os 'dyn nhw isio unrhyw gefnogaeth, 'da ni yna iddyn nhw," meddai Stephen.
Ychwanegodd fod y grant Loteri yn gyfle i "ail-atgyfodi hen atyniad a hanes y pentref."
Dywedodd Dyfed fod yr olygfa o dop y Tŵr yn "gwerthu ei hun."
Cyffro
"Mae o'n gyffrous hefyd i rywun sydd wedi bod i ben y golofn, dwi'n cofio'r tro cynta' esh i a'r coesa yn crynu 'chydig wrth gyrraedd y top ond o weld yr olygfa, dwi'n meddwl bod hwnna yn gwerthu ei hun mewn ffordd.
"Mae o'n gyffrous iawn a dwi'n meddwl o'r budd y ddaw o i Llanfair a'r ardaloedd cyfagos, dwi'n meddwl bod o'n rywbeth i edrych ymlaen ato."
Yn ôl Stephen, mae yna ddiolch mawr i un person yn arbennig.
"'Dan ni gyd yn gefnogol ohona fo, ond y diweddar Alun Mummery nath bushio hwn ymlaen ag o'dd o'n mynd ar ôl nhw i gael o yma so ma' 'na ddiolch idda fo rili, parch mawr idda fo am gwffio i gael o yma.
"Dwi'n meddwl oherwydd hynna a hefyd y gymuned, mae o'n dda o beth i'r dyfodol."
Y gobaith ydy y bydd y Tŵr yn ail-agor yn ddiweddarach eleni, gan ddod yn gornel fach o hanes unwaith eto yn y pentref bach â'r enw hir.