Newyddion S4C

Cynnal degau o Eisteddfodau lleol am y tro cyntaf ers y pandemig

Cynnal degau o Eisteddfodau lleol am y tro cyntaf ers y pandemig

Newyddion S4C 25/01/2023

Ar ôl hir aros, fe fydd degau o Eisteddfodau lleol unwaith eto yn rhoi llwyfan i dalentau hen ac ifanc drwy Gymru gyfan y flwyddyn hon.

Cyn y cyfnod clo, roedd rhwng 60 a 70 o Eisteddfodau lleol yn cael eu cynnal yn flynyddol. Eleni, mae dros 45 o bwyllgorau eisoes wedi cadarnhau eu trefniadau, gydag eraill yn dal i drafod.

“Mae pawb wedi bod yn betrusgar” a nifer wedi “colli hyder” yn ôl Aled Wyn Phillips, Swyddog Datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Ond mae’n credu bod y sefyllfa yn newid.

“Yn gymunedol, mae’n teimlo fel bod ‘na dro ar fyd. Ond mae dal angen hyder, a meithrin yr hyder,” meddai.

“Yn gyntaf yr arferiad o fynd i ‘steddfod a rhoi hyder i bwyllgorau. Mae’n hawdd iawn anghofio’r hyn oedd yn cael ei wneud bron yn awtomatig. Lle mae’r rhestr destunau? Lle mae’r bathodynnau? Lle mae popeth yn cael ei gadw? Felly mater o amser yw hi.”

Image
newyddion

'Dysgu'

Un sy’n hynod falch bod yr arferion diwylliannol traddodiadol yn dychwelyd ydy’r perfformiwr o Langwyfan ger Dinbych, Steffan Rhys Hughes.

“Ges i wersi efo Leah Owen oedd yn athrawes efo fi yn Ysgol Twm o’r Nant ag odd hi yn reit bendant yn dweud pa mor bwysig oedd cefnogi Eisteddfodau lleol ac mai dyna’r man cychwyn i feistroli crefft," meddai.

Wedi mwynhau llwyddiannau niferus mewn eisteddfodau bach a mawr, lleol a chenedlaethol, mae Steffan bellach yn ennill bywoliaeth fel canwr, cyflwynydd a pherfformiwr.

Yn ystod y cyfnod clo, fe oedd yn gyfrifol am ddod a chriw ‘Welsh of the West End’ at ei gilydd, gan ddechrau wrth ryddhau perfformiadau rhithiol. Mae'r cantorion o Gymru bellach i’w clywed  yn gyson mewn cyngherddau a digwyddiadau nodedig ar draws y byd.

Y gwersi cynnar mewn Eisteddfodau lleol meddai Steffan sy’n gyfrifol am lwyddiant nifer o’r aelodau hynny.

“Mae ‘na elfennau o be’ nes i ddysgu bryd hynny yn dal yn bwysig heddiw," meddai.

"Ti’n dysgu mewn Steddfod leol yn gynnar iawn i berfformio ar lwyfan o flaen cynulleidfa fyw, o flaen beirniad, sy’n dy feirniadu di’n syth. Cyd weithio hefo cyfeilyddion a cherddorion eraill.”

'Newydd'

Mae ambell i Steddfod leol eisoes wedi eu cynnal yn 2023. Yn ôl Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, fe aeth 27 ati i gystadlu am ‘Dlws yr Ifanc’ yn Eisteddfod Gadeiriol Chwilog gyda 7 yn cystadlu am y Gadair.

Yng Nghaerdydd, yn y cyfamser, cynhaliwyd Eisteddfod am yr eildro yn unig. Gyda channoedd yn tyrru trwy’r drysau yn ystod y dydd i fwynhau perfformiadau o ganu a llefaru i berfformiadau offerynnol a dawns, fe ddaeth y cyfan i uchafbwynt  gyda’r hwyr wrth i dri chôr ddod i gystadlu.

“Dwi’n credu bod 'na ddyfodol i Eisteddfodau bach fel hyn,” meddai Sioned Wyn, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd.

“Mae hon yn Eisteddfod gymharol newydd, dim ond yr ail i’w chynnal ac mae’n hynod bwysig cael digwyddiadau fel hyn er mwyn cynnal y Gymraeg yn yr ardal a chynnal cymdeithas o’r fath yn y brifddinas.”

Mae Aled Wyn Phillips yn derbyn serch hynny bod yna le i foderneiddio a datblygu gan edrych tua’r dyfodol. Mae sicrhau bod aelodau ifanc ar bwyllgorau yn bwysig, meddai

“Enghraifft arbennig o dda yw Eisteddfod y Rhondda gafodd ei chynnal yn Nhreorci cyn y Nadolig,” meddai.

"Y tro cyntaf i ‘steddfod gael ei chynnal yno ers y chwedegau ac roedd criw ifanc Aelwyd y Rhondda wedi dod at ei gilydd ac roedd eu gwaith trefnu nhw yn arbennig o dda."

Yn ôl Aled, mae defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a chyfryngau cymdeithasol yn ffordd o symud yr arferion traddodiadol ymlaen.

“Ro’ nhw wedi deall beth oedd ‘social media’," meddai.

"O nhw’n deall beth oedd brandio. O nhw’n deall beth oedd edrych ar ôl y beirniad. O nhw hefyd yn deall beth oedd ‘steddfod draddodiadol a gwerthoedd ‘steddfod.

"Yn cael ei chynnal mewn capel, ond hefyd yn defnyddio technoleg i ddarlledu ar orsaf radio leol felly modd i gyrraedd y tu hwnt i furiau pedair wal.”

'Cymuned'

Yn ogystal â hybu Cymreictod a datblygu talentau, mae’n ymddangos bod yr elfen gymunedol hefyd yn hollbwysig wrth ystyried dyfodol yr Eisteddfodau lleol, a’r rhan greiddiol sydd ganddi yng nghanol cymdeithasau Cymru.

“Mae e’n gyfle i bobl o’r ardal a phob rhan o Gymru i gystadlu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Sioned Wyn.

“Mae mor braf clywed pawb yn siarad Cymraeg."

Ac i Steffan Rhys Hughes sy’n paratoi ar gyfer blwyddyn brysur ar lwyfannau Cymru a thu hwnt, y gobaith yw gweld parhad yn yr arfer gymunedol, ddiwylliannol unigryw o Gymreig yma;

“Mae ‘steddfod yn gallu dod a chymuned at ei gilydd. Mewn neuadd bentre’, neu gapel neu festri a dwi’n credu bod y digwyddiadau yna yn bwysig nid yn unig i gantorion a pherfformwyr ond i’r gymuned yn gyffredinol."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.