Arestio dyn mewn cysylltiad â marwolaeth dyn arall yng Nghaerdydd

25/01/2023
Darren Moore

Mae dyn 50 oed wedi'i arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn arall yng Nghaerdydd dros y penwythnos. 

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Darren Moore, 39 oed, o Gasnewydd, yn yr ardal ger Plas Windsor a Heol y Parc ar ddydd Sul, 22 Ionawr.

Cafodd ei weld ddiwethaf am 05:00 mewn dillad drag ac yn gwisgo colur ar ei wyneb, ffrog werdd lachar, wig golau, sodlau diamente a bag llaw.

Mae Heddlu De Cymru bellach wedi dweud bod dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o ddynladdiad.  Mae'n parhau yn y ddalfa wrth i ymholiadau'r heddlu barhau. 

Dywedodd yr heddlu hefyd eu bod yn parhau i ymchwilio er mwyn darganfod achos ei farwolaeth.

Mewn teyrnged i Darren, dywedodd ei deulu ei fod "yn ŵr, mab, brawd, ewythr a ffrind cariadus". 

"Roedd bob amser yn llawn ysbryd lle bynnag yr aeth, fe oedd ein pili pala cymdeithasol.  Sicrhaodd fod ganddo lawer o amser i bobl, ac ni wnaeth feirniadu eraill," ychwanegodd y deyrnged.

"Mae gŵr a theulu Darren am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ond nawr maen nhw angen yr amser i alaru ac yn galw'n barchus am breifatrwydd ar yr adeg hon."

Mae ei deulu'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.