Gwrthod cais i'r Llys Apêl gan fam Logan Mwangi
Mae mam sydd wedi ei chael yn euog o ladd ei mab wedi colli cais i'r Llys Apêl i wrthdroi ei dedfryd.
Fe wnaeth Angharad Williamson, 31, o Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr gael ei dedfrydu i oes yn y carchar y llynedd am ladd Logan Mwangi.
Cafodd llys-dad Logan Mwangi, John Cole, ddedfryd o oes o garchar, gydag isafswm o 29 mlynedd cyn y bydd yn cael gwneud cais am barôl.
Cafodd Craig Mulligan, 14 oed, ddedfryd o 15 mlynedd mewn canolfan i droseddwyr ifanc.
Roedd Peter Rouch KC, a oedd yn cynrychioli Angharad Williamson, wedi cyflwyno cais i apelio dedfryd y fam yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.
Fe wnaeth ddadlau y dylai’r dystiolaeth ynglŷn â chymeriad hiliol a threisiol John Cole fod wedi cael ei gyflwyno i’r rheithgor.
Pe bai’r rheithgor yn ymwybodol o hynny fe allai fod wedi cael effaith ar eu penderfyniad ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau treisgar ar y bachgen, meddai.
Roedd y barnwr gwreiddiol, Nerys Jeffordd, wedi penderfynu eithrio'r dystiolaeth ar y sail ei fod yn wybodaeth hanesyddol.
Ddydd Mercher, penderfynodd barnwyr yn y Llys Apêl nad oedden nhw wedi eu hargyhoeddi fod Nerys Jeffordd yn anghywir yn ei phenderfyniad i wneud hynny.