Newyddion S4C

Covid-19: Pwy fydd yn derbyn y brechlyn yn 2023?

25/01/2023
Brechiad Covid-19

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS, wedi cyhoeddi pwy fydd yn cael brechlyn Covid-19 yn 2023.

Dywedodd mewn datganiad ysgrifenedig fod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi y cyngor diweddaraf ar raglen 2023.

"Mae'r risg o gael Covid-19 difrifol yn parhau i fod yn anghymesur o uchel i grwpiau oedran hŷn, preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn, a phobl â chyflyrau iechyd penodol sy’n bodoli eisoes. Mae ansicrwydd yn parhau hefyd ynghylch esblygiad y feirws, parhad ac ehangder yr imiwnedd, ac epidemioleg yr haint," medd y datganiad.

Dywedodd yr JCVI ei bod yn bosibl y byddai dos ychwanegol o frechlyn atgyfnerthu yn cael ei gynnig yn ystod gwanwyn 2023. 

Dywed y pwyllgor hefyd y byddai pobl sydd â mwy o risg o gael Covid-19 difrifol yn cael cynnig dos ychwanegol o frechlyn atgyfnerthu yn ystod hydref 2023. 

Ychwanegodd ei fod yn bosibl y bydd angen ymateb ychwanegol drwy roi brechlynnau ar frys hefyd pe bai amrywiolyn newydd yn dod i’r amlwg.

Newidiadau i raglenni presennol

Yn ogystal, mae'r JCVI hefyd yn argymell rhai newidiadau i'r rhaglen frechu gyffredinol.

Mae hyn yn cynnwys peidio cynnig trydydd dos o'r brechlyn i bobl rhwng 16 a 49 oed nad ydynt mewn grŵp risg clinigol.

Hefyd, dywedodd yr JCVI y dylai’r cynnig presennol o "adael neb ar ôl" drwy roi dau frechlyn cyntaf o Covid-19 gael ei newid i dargedu pobl sydd â mwy o risg o gael Covid-19 difrifol.

"Mae’r cyngor hwn yn golygu mai dim ond pobl benodol ar adegau penodol fydd yn cael cynnig brechiadau Covid-19 o 2023 ymlaen, ac eithrio pan fydd clinigwyr yn eu rhoi drwy bresgripsiwn," medd y datganiad.

Ychwanegodd Eluned Morgan: "Ochr yn ochr â’m cymheiriaid yn y DU, rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac, yn amodol ar gyflenwad, mae GIG Cymru yn barod i ddechrau gweithredu'r rhaglen hon yn 2023.

"Fel erioed, rwy'n hynod ddiolchgar i'r GIG a phawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.