'Dau neu dri aelod o Heddlu'r Met i ymddangos yn y llys bob wythnos'

25/01/2023
Syr Mark Rowley / Heddlu'r Met

Mae Comisiynydd Heddlu'r Met wedi dweud bod disgwyl i ddau neu dri aelod o'r llu ymddangos yn y llys bob wythnos i wynebu cyhuddiadau troseddol yn ystod y misoedd nesaf.

Daw hyn wrth i Heddlu'r Met geisio cael gwared ar gannoedd o swyddogion llwgr sydd yn parhau i weithio i'r llu.

Dywedodd y Comisiynydd, Syr Mark Rowley, wrth Bwyllgor Heddlu a Throsedd Cynulliad Llundain fod rhagor o "straeon poenus" i ddod wedi i'r llu wynebu sawl sgandal diweddar.

Daw ei sylwadau wedi i gyn-aelod o Heddlu'r Met, David Carrick, 48, bledio'n euog i gyfres o droseddau rhyw a ddigwyddodd yn ystod ei amser gyda'r llu, gan gynnwys treisio, trais domestig ac aflonyddu rhywiol.

Er y daeth Mr Carrick i sylw'r llu ar naw achlysur, ni wynebodd unrhyw sancsiynau troseddol neu ganfyddiadau o gamymddygiad.

Fe wnaeth Syr Mark annog y cyhoedd i beidio colli ffydd yn y Met, wrth iddynt fynd ati i gael gwared ar swyddogion llwgr eraill o fewn y llu.

"Ni fydd codi'r llenni a darganfod gwirioneddau poenus yn datrys pethau dros nos," meddai.

"Mae'n rhaid i ni baratoi am ragor o straeon poenus wrth i ni wynebu'r problemau yma.

"Wrth i ni gyfrannu mwy o adnoddau, defnyddio tactegau cryfach...wrth i ni ddelio gyda'r achosion yma'n gryfach, fe fydd hynny yn taclo'r problemau ni'n wynebu, ond ni fydd hyn yn digwydd yn gyflym ac fe fydd hynny'n boenus."

Yn sgil achos Mr Carrick, mae tua 1,000 o achosion blaenorol o droseddau rhyw neu drais domestig yn gysylltiedig â swyddogion yn y Met yn cael eu hadolygu.

Ar ben hynny, dywedodd Syr Mark ei fod yn disgwyl i ddau neu dri aelod o'r llu ymddangos yn y llys bob wythnos yn y dyfodol agos i wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw, trais neu drais domestig ac anonestrwydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.