Prif gôl-geidwad CPD Abertawe wedi'i anafu am weddill y tymor
24/01/2023
Mae prif gôl-geidwad clwb pêl-droed Abertawe, Steven Benda, wedi'i anafu am weddill y tymor.
Roedd y chwaraewr o'r Almaen wedi dioddef anaf wedi iddo lanio'n lletchwith mewn gêm rhwng Abertawe a QPR dydd Sadwrn.
Fe fydd Benda yn methu gweddill y tymor gydag anaf i'w ben-glin.
Mae wedi cychwyn 21 o gemau yn olynol i'r Elyrch ers i'r hyfforddwr Russell Martin ei ddewis fel brif gôl-geidwad y clwb.
Y disgwyl yw y bydd Andy Fisher yn cymryd lle Benda rhwng y pyst am weddill y tymor, gyda Lewis Webb o bosib yn cael ei alw'n ôl o'i gyfnod ar fenthyg gydag Aberystwyth i fod yn eilydd iddo.