Newyddion S4C

'Methiannau difrifol' gan swyddogion prawf yn achos llofruddiaeth Zara Aleena

24/01/2023
Zara Aleena / Heddlu'r Met.png

Mae adroddiad i lofruddiaeth Zara Aleena yn nwyrain Llundain yn cyfeirio at "fethiannau difrifol" gan swyddogion prawf. 

Bu farw Zara Aleena, 35, wedi i Jordan McSweeney, 29, ymosod arni yn Ilford ym mis Mehefin 2022, ddyddiau'n unig wedi iddo gael ei ryddhau o garchar.

Yn ôl yr adroddiad gan Brif Arolygydd y Gwasanaeth Brawf, Justin Russell, ni wnaeth swyddogion drin Mr McSweeney fel troseddwr 'risg uchel' wedi iddo gael ei ryddhau.

Daw'r adroddiad wedi i'r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab, gomisiynu adolygiad i'r modd y cafodd McSweeney ei drin gan y gwasanaeth prawf.

Roedd e wedi ei ganfod yn euog ar sawl achlysur blaenorol a roedd ganddo hanes o fod yn dreisgar tuag at fenywod. 

Dyn 'treisgar a bygythiol' 

Cafodd Mr McSweeney ddedfryd o garchar am o leiaf 38 mlynedd ym mis Rhagfyr am lofruddio Zara Aleena yn ystod oriau man fore Sul, 26 Mehefin. 

Cafodd McSweeney ei weld ar gamerâu cylch cyfyng yn llechu ​​ar y stryd, ar ôl cael ei daflu allan o dafarn am boeni aelod benywaidd o staff.

Targedodd o leiaf bum menyw arall ar y stryd cyn iddo ymosod ar Ms Aleena. Cafwyd hyd i Ms Aleena gydag anafiadau difrifol i'w phen, a bu farw mewn ysbyty yn ddiweddarach. 

Roedd Jordan McSweeney wedi ei ganfod yn euog ar 28 achos blaenorol yn gysylltiedig â 69 trosedd, gan gynnwys ymosod ar aelodau o'r cyhoedd a phlismyn.

Roedd ganddo hefyd hanes o fod yn dreisgar i'w gyn bartneriaid, gan dderbyn gorchymyn ymatal yn erbyn un fenyw yn 2021. 

Yn ôl Mr Russell, ni chafodd McSweeney ei drin fel troseddwr 'risg uchel' gan y gwasanaeth prawf, er gwaethaf y dystiolaeth, am na chafodd y cyhuddiadau yn ei erbyn, eu hystyried yn eu cyfanrwydd. 

Yn ôl Mr Russell, roedd diffyg cyfathrebu rhwng carchardai a'r gwasanaeth prawf ynglŷn â throseddau McSweeney, ac yn sgil hynny, cafodd ei ystyried yn droseddwr 'risg cymedrol.'

"Dylai fod wedi cael ei ystyried fel troseddwr all beri risg uchel i ddiogelwch eraill," meddai Mr Russell.

"Pe bai hynny wedi digwydd, fe fyddai'r gwasanaeth wedi gweithredu ynghynt gan hebrwng McSweeney yn ôl i'r carchar, ar ôl iddo fethu ei apwyntiadau arolygiad.

"Methodd y gwasanaeth prawf â gwneud hynny, ac roedd yn rhydd i ymosod ar fenyw ifanc ddiniwed." 

"Mae ein hadolygiad annibynnol yn dangos yn glir y canlyniadau o fethu cyfleoedd ac yn dangos bod y gwasanaeth prawf yn Llundain, o dan bwysau aruthrol gyda llwyth gwaith cynyddol a diffyg staff." 

Mae'r adroddiad wedi cyflwyno 10 o argymhellion i'r gwasanaeth prawf, gan gynnwys adolygiad brys o'r modd y mae staff yn categoreiddio troseddwyr, wrth asesu'r perygl i'r cyhoedd.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.