Newyddion S4C

Newid hinsawdd: Pryderon am ddyfodol y diwydiant sgïo

Newid hinsawdd: Pryderon am ddyfodol y diwydiant sgïo

Mae pryderon am effaith posib newid hinsawdd ar ddyfodol busnesau sy’n dibynnu ar y tymor sgïo.

Ar draws cyfandir Ewrop mae’r tymor sgïo yn cynnal busnesau, gan gynnwys sawl un yma yng Nghymru.

Yn dilyn dechrau gwael i’r tymor sgïo oherwydd tywydd cynhesach na’r arfer, mae rhai yn pryderu am effeithiau hirdymor newid hinsawdd ar y diwydiant.

Yn eu plith mae Bedwyr ap Gwyn, sy'n hyfforddwr eira fyrddio yn Llandudno. Dechreuodd eira fyrddio yn Ffrainc 15 mlynedd yn ôl, ac mae wedi sylwi ar effeithiau newid hinsawdd yn ystod y blynyddoedd diweddar.

“Dwi’n bennaf yn mynd i’r Alpau yn Ffrainc i eira fyrddio. Un peth sy’n sicr yw bod y rhewlifoedd wedi crebachu yn ystod y cyfnod byr dwi ‘di bod wrthi.

"O ran newid yn hyd y tymor sgïo, mae ‘na ambell i flwyddyn dda ac ambell i flwyddyn wael. Ond, dwi’n credu bod y blynyddoedd gwael yn dod yn amlach nag o’n nhw falle 20 mlynedd yn ôl.

"Hefyd, eleni oedd y tro cyntaf i fi gofio lle'r oedd ardal mor eang wedi’i effeithio. Roedd yr Alpau i gyd yn wyrdd, gwartheg oedd yn pori’r piste. Ac roedd lot o’r sgïwyr wedi troi nôl i feicio mynydd i geisio achub eu gwyliau. Mae’n sicr bod rhywbeth yn digwydd ac mae’n drist o ran yr effaith mae hynny’n cael ar y cymunedau ‘na sy’n dibynnu ar y diwydiant.”

Image
Sgio
Mae nifer o wersylloedd sgïo wedi cynyddu eu defnydd o canonau eira 

Mae Bedwyr wedi hyfforddi eira fyrddio ers 2008 ar lethr plastig yng Nghanolfan Sgïo Llandudno - profiad sy’n wahanol iawn i sgïo ar eira go iawn, meddai.

“Mae’r profiad o eira fyrddio ar blastig o’i gymharu i eira go iawn yn cwbl wahanol. Ond mae’n ffordd effeithiol o ddysgu. Campfa yw’r llethrau fel yr un yma yn Llandudno, i’ch paratoi chi ar gyfer yr eira go iawn. Sa i’n meddwl bydde unrhyw un yn dewis hwn am weddill ei oes.”

Ond gyda sawl un o lethrau enwog Ewrop yn wyrdd yn hytrach na gwyn dros y Nadolig, mae Bedwyr yn pryderu am ddyfodol y diwydiant.

“Mae rhywun yn poeni am yr effaith ar y busnes, wrth gwrs, ond mae’n eilradd i’r broblem ehangach o gynhesu byd eang. Byddwn i’n swnio’n eithaf hunanol taswn i jyst yn gweud fy mod i’n poeni amdana i fy hun. Dwi’n meddwl un o’r pryderon os ‘da ni’n sôn am yr economi yn gyffredinol ydy’r bobl yna sy’n byw trwy’r flwyddyn yn yr Alpau ac angen tymor y gaeaf i oroesi gweddill y flwyddyn.

"Maen nhw 'di colli Nadolig a’r flwyddyn newydd eleni a swn i’n meddwl, yn enwedig ar ôl Covid, bod hwnna’n mynd i fod yn dipyn o glec iddyn nhw.”

'Tymor yn fyrrach yn barod'

Mae gwledydd ar draws Ewrop wedi profi gaeaf cynhesach na’r arfer hyd yn hyn.

Yn ôl meteorolegwyr, cafodd y diwrnod cynhesaf erioed ei gofnodi ym mis Ionawr mewn o leiaf wyth gwlad gan gynnwys Gwlad Pwyl, Denmarc, y Weriniaeth Tsiec, yr Iseldiroedd, Belarws, Lithwania a Latfia.

Yn Bilbao, Sbaen cafodd tymheredd o 24.9°C ei gofnodi ddechrau mis Ionawr, sydd yn record yno hefyd. Ac yn ôl yr arbenigwr hinsawdd Steffan Griffiths - nid digwyddiad unigryw yw hwn. 

“Mae’r delweddau i ni’n gweld ar hyn o bryd yn mynd i fod yn batrwm sy’n parhau. Ers dechrau’r ugeinfed ganrif mae tymereddau wedi cynhesu rhyw 2°C ar draws Ewrop o’i gymharu gyda rhyw 1.1°C mewn rhannau eraill o’r byd.

"Ac mae ‘na ymchwil diweddar sy’n dangos dros y 50 mlynedd diwethaf mae’r eira sy’n aros ar lawr yn yr alpau wedi lleihau rhyw 36 diwrnod ar gyfartaledd. Felly, mae’r tymor yn fyrrach yn barod.

Image
Steffan Griffiths
Yn ôl Steffan Griffiths, mae diffyg eira yn dod yn fwy aml i Alpau Ewrop

“Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, erbyn diwedd y ganrif mae disgwyl bydd trwch yr eira wedi lleihau rhyw 90% ar lethrau isaf alpau Ewrop. Hyd yn oed erbyn canol y ganrif bydd y trwch wedi lleihau rhyw 25%.

"A bydd rhewlifoedd yr Alpau yn crebachu rhyw 80%, gan hyd yn oed diflannu’n gyfan gwbl mewn rhai mannau. Felly maen nhw’n ddelweddau brawychus a trist iawn ond yn ddelweddau bydd angen i ni ddod yn gyfarwydd â nhw.”

Ac yn ôl Steffan Griffiths, mae llawer mwy o ffactorau i'w hystyried: “Mae’r sefyllfa yn creu problemau ehangach hefyd. Mae ‘na bobl sy’n ddibynnol iawn ar y dŵr tawdd ar gyfer amaethyddiaeth a diwydiant. Felly mae’r siawns o sychder yn ystod weddill y flwyddyn yn cynyddu pan bod llai o eira’n disgyn.”

'Difetha ein dyfodol ni'

Mae newid hinsawdd yn bwnc trafod yn Ysgol Uwchradd Tryfan ym Mangor, lle mae disgyblion wedi sefydlu grwp cynaliadwyedd i drafod a gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.

Mae Mabli yn un o’r disgyblion sy’n rhan o’r grŵp: “Yndi, mae newid hinsawdd yn poeni fi. Dyfodol ni ydi o ac os mae’n mynd yn cynhesach ac yn cynhesach ac mae’r byd yn cael ei difrodi ein dyfodol ni fydd yn cael ei difetha,” meddai.

Gyda'r ysgol wedu trefnu taith sgïo a fydd yn digwydd yn yr wythnosau nesaf, mae’n amlwg bod y golygfeydd ar draws Ewrop dros yr wythnosau diwethaf yn eu pryderu.

Mae Carys wedi sgïo o’r blaen, ac mae’n dweud bod yr amodau wedi newid dros y blynyddoedd. “O’r blaen os oedden ni’n mynd, roedd modd creu dynion eira yn y pentref o dan y cyrchfan. Ond, pan es i dros y Nadolig gyda’r teulu doedd dim eira go iawn yno, jyst rhew.”

“Mae’n ofni fi falle bydd sgïo ddim yn para am byth wrth i newid hinsawdd gwaethygu achos bydd dim digon o eira.”

Mae ei ffrind Cadi yn paratoi i fynd i sgïo am y tro cyntaf: “Dwi yn edrych ymlaen at fynd, dwi wedi cael gwersi o’r blaen ond dyma fydd y tro cyntaf i fi sgïo ar eira go iawn.

“Ond dwi yn poeni am newid hinsawdd yn gyffredinol. Os ydi newid hinsawdd yn mynd yn waeth ac yn waeth a dwi’n mynd mewn ychydig o wythnosau a dwi’n mwynhau’r profiad byddai eisiau mynd nôl ac felly byddai bach yn siomedig os ydi newid hinsawdd yn golygu bod hynny ddim yn bosib.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.