Newyddion S4C

Rhodd gan Ryan Reynolds i glwb pêl-droed gael cit newydd

23/01/2023
Wrecsam / Ryan Reynolds / Cae Ras

Mae Ryan Reynolds wedi rhoi £1,600 i glwb pêl-droed yn Wrecsam er mwyn iddynt brynu cit newydd i'w chwaraewyr. 

Fe wnaeth FC United of Wrexham greu tudalen GoFundMe er mwyn codi £480 i dalu am wisg newydd ar gyfer eu tîm futsal o dan 12. 

Dim ond £40 oedd yn y coffrau pan wnaeth Reynolds gamu i mewn i gynnig cymorth. 

Fe wnaeth y seren Hollywood a chydberchennog CPD Wrecsam gyfrannu bron i deirgwaith targed y clwb. 

Dywedodd Kayleigh Barton, a wnaeth sefydlu'r tudalen GoFundMe, wrth BBC Radio Wales ddydd Llun ei bod yn "crynu" pan welodd bod Reynolds wedi cyfrannu. 

"Fe wnes i wneud hyn er mwyn helpu'r bechgyn gyda'u cit, o'n i ddim yn disgwyl i Ryan Reynolds i roi arian," meddai Kayleigh.

"Ges i e-bost yn dweud bod Ryan wedi rhoi £600, a gyd nes i feddwl oedd 'pwy ydy Ryan?'

"Fe wnes i logio mewn a naeth o ddweud Ryan Reynolds a nes i jyst dweud 'o fy nuw,' dechreuais grynu, o'n i methu credu'r peth."

Mae Reynolds bellach wedi anfon neges ar gyfryngau cymdeithasol i gadeirydd y clwb er mwyn dymuno'n dda iddynt gyda'r cit newydd. 

Yn sgil y cyfraniad, mae'r clwb wedi ychwanegu logo Deadpool at y cit mewn teyrnged i'r actor, gan hefyd ffilmio neges fideo i ddiolch iddo. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.