Rishi Sunak yn cyhoeddi ymchwiliad i faterion trethi cadeirydd y Ceidwadwyr
Mae'r prif weinidog Rishi Sunak wedi cyhoeddi ymchwiliad i faterion trethi cadeirydd y Blaid Geidwadol, Nadhim Zahawi.
Daw hyn wedi i Mr Zahawi dalu cosb i ddatrys anghydfod treth gydag Adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi.
Y gred yw bod yr anghydfod dros tua £5 miliwn.
Mae'r cyn-ganghellor yn wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo yn dilyn cyhoeddi manylion am yr anghydfod.
Mae'r blaid Lafur wedi dweud wrth y Prif Weinidog, Rishi Sunak y dylai Mr Zahawi golli ei swydd a bod angen i Mr Sunak ddatgan yr hyn yr oedd yn ei wybod am faterion treth Mr Zahawi pan gafodd ei benodi yn gadeirydd y blaid.
Mae Mr Sunak bellach wedi gofyn i'r cynghorydd annibynnol ar ddiddordebau gweinidogion i ymchwilio i faterion trethi Mr Zahawi.
"Mae gonestrwydd a chyfrifoldeb yn bwysig iawn i mi, ond mae'n bwysig i ni wneud pethau yn y ffordd gywir," meddai'r prif weinidog ddydd Llun.
"Dyna pam dwi wedi gofyn i'r cynghorydd annibynnol i ymchwilio i'r mater a rhoi cyngor i mi ynglŷn ag os ydy Nadhim Zahawi wedi dilyn y côd ymddygiad ar gyfer gweinidogion.
"Ar sail hynny, byddwn yn penderfynu ar ein camau nesaf."
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Zahawi ei fod yn "croesawu" penderfyniad y prif weinidog.
"Rydw i'n edrych ymlaen at esbonio'r ffeithiau i Syr Laurie Magnus a'i dîm," meddai.
"Rydw i'n hyderus fy mod i wedi ymddwyn yn y ffordd gywir ac yn edrych ymlaen at ateb unrhyw gwestiynau penodol yn ffurfiol gyda Syr Laurie.
"Er mwyn sicrhau annibyniaeth y broses, byddwch yn deall ei fod yn amhriodol i drafod y mater yn bellach wrth i mi barhau gyda fy nghyfrifoldebau fel cadeirydd y Blaid Geidwadol."