Ymestyn rhybudd melyn am niwl i fannau o Gymru nos Sadwrn
21/01/2023
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn rhybudd melyn am niwl i rai mannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Fe allai'r niwl achosi amgylchiadau anodd i yrwyr tan 23:59 nos Sadwrn, ac effeithio ar deithiau bysus a threnau am gyfnod.
Yr ardaloedd dan sylw yw:
- Powys
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Torfaen
Ond dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Met bod y gwaethaf o'r oerfel bellach ar ben.
"O ran y rhew mi'r ydan ni dros y gwaethaf," meddai'r meteorolegwr Craig Snell.
"Fe fydd y tymheredd yr wythnos nesaf tua'r cyfartaledd ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn."