
Blwyddyn drwy lens y ffotograffydd Claire Thomas

Blwyddyn drwy lens y ffotograffydd Claire Thomas
O Idole, ar gyrion Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, mae Claire Thomas bellach yn byw yn Cairo, prifddinas yr Aifft. Oddi yno, mae’n teithio’r byd, gydag Wcrain, Irac a Mongolia ymhlith rhai o’r lleoliadau iddi ymweld â nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Wedi byw am dair blynedd yng nghanol erchyllderau Mosul yn Iraq, o dan gysgod Isis, mae Claire yn Ffotograffydd Rhyfel profiadol. Ond gwahanol iawn meddai oedd y profiad o weithio yn ardal Donetsk yn Nwyrain Wcrain ym mis Tachwedd 2022;
“Ro ni’n gweld bod y brwydro yn Wcrain yn fwy ‘unpredictable’. Oedd ‘artillery strike’ wedi taro yn agos iawn i ni. Ro ni’n ei deimlo fe, yn rhy agos.”

Er bod mwyafrif y bobl yn y dref eisoes wedi gadael yn sgil y brwydro ffyrnig a pharhaus yn yr ardal ddwyreiniol hon o’r wlad, mae rhai wedi paratoi i aros yno. Cafodd Claire ei synnu gan ymateb y bobl hynny i’r ymosodiadau;
“Ro’ nhw jyst yn cario mlaen cerdded, a do’ ni ddim yn gallu credu. O ni wedi ychydig o panig, yn dreifo’n glou, ond oedd pobl eraill yn cario mlaen achos mae nhw jyst wedi dod yn gyfrawydd ag e.”

Yn ystod ei chyfnod yno, fe fu Claire yn gweithio gyda thîm o Feddygon Rhyngwladol. Yr un rhai y bu hi’n gweithio gyda nhw ar linell flaen y Rhyfel yn Iraq;
“Ges i fy atgoffa o beth yw realiti rhyfel. A’r ergyd i bobl gyffredin, a shwt mae pob agwedd o fywyd yn cael ei effeithio mewn cyfnod o ryfel.”

A hithau yn ystyried Iraq fel ail gartref bellach, mae ei chysylltiad â’r wlad wedi dyfnhau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi iddi creu perthynas gyda merch ddeg oed o’r enw Maya.
Mae’n dioddef o glefyd prin sy’n effeithio ar y croen, sef Epidermolysis Bullosa. Gyda’r croen yn fregus tu hwnt, mae unrhyw cyffyrddiad yn torri’r croen ac yn agor pothelau;
“Dwi wedi gweld lot o bobl yn dioddef” meddai Claire, ond fe dynodd stori Maia at ei chalon ar ôl gweld fideo torcalonus ohoni ar gyfryngau cymdeithasol.
“Ges i sioc, achos mae e mor wael. Hwn yw’r peth gwaethaf dwi erioed wedi gweld.”
“Mae mewn cymaint o boen, a does dim help ar gael. Does dim ‘pain relief’ a gofynes i’w mam, beth mae’n neud i ddelio â’r boen. Wedodd y mam ‘I’m her only pain relief’.”
Ar ôl ymweld â’r gwersyll lle mae Maia a’i theulu yn byw, fe ledodd lluniau Claire yn eang, gan ddenu sylw sylweddol i’w hachos ar dudalen ‘Go Fund Me. Ymhen dim, cafodd dros £9,000 o bunnau ei godi fydd yn gymorth anferthol i da lu am driniaeth er mwyn lleddfu rhywfaint ar ei dioddefaint.
“Gall yr arian hyn newid ei bywyd. Dyw’r driniaeth ddim yn gymhleth. Mae angen ‘bandages’ ac eli, ac mae’n costio tua £1,000 y mis.”
Yn ystod sgwrs gyda Maia, fe ofynodd Claire iddi beth fyddai’n ei gwneud yn hapus, gyda’r ferch ifanc yn gofyn am gar bach coch fel bod modd iddi fynd allan at ei ffrindiau. Gwireddwyd ei breuddwyd, diolch i’r arian oedd wedi ei godi. Roedd Claire yno i gyflwyno’r car;

“Roedd e’n rhywbeth mor arbennig. I weld hi mor hapus. Yn gwenu. A chael ffordd i fynd tu fas i’r ystafell yna, a bod gyda ffrindiau.”
Ar ôl gweld y dylanwad sydd gan luniau pwerus mewn achosion fel hyn, mae Claire yn gobeithio cwblhau rhagor o waith tebyg, gan ddychwelyd at Maia ac Irac yn ystod y flwyddyn yma.

Er mwyn cynnal bywoliaeth fel ffotograffydd llawrydd serch hynny, mae Claire wedi dod i sylweddoli bod yn rhaid cynnig deunydd eang ac amrywiol. Gyda’i chariad at geffylau yn amlwg yn ei gwaith, fe ddychwelodd i Mongolia yn nwyrain Asia ym mi Gorffenaf 2022. Y tro hwn, i ddefnyddio’i chamera i ddarlunio llwyth prin y Dukha, sy’n byw ac yn gweithio gyda cheirw.
“Mae e mor ddiddorol a ffantastig i weld” meddai Claire.
“Ro’ ni’n tynnu lluniau o blant bach yn marchogaeth ceirw, pobl yn chwarae Polo mewn ‘Yak Festival’. Roedd plant yn rasio ar gefn ceffylau, pobl yn reslo a chystadlu mewn 'archery' hefyd. Roedd e mor ddiddorol i weld shwt mae’r bobl yma yn byw.”
Mae bywyd y Dukha, llwyth teithiol sy'n byw bywyd syml mewn pebyll, yn cael ei redeg gyda'r carw yn rhan ganolog ohono. Mae deiet y bobl yn ddibynol ar laeth carw, gyda’r bobl yn cael eu hyfforddi o oed cynnar iawn ynglyn â’r arferion hynafol.

Mae Claire yn gweithio’n gyson gyda’r “Sunday Times” a’r New York Times ac yn gwerthu lluniau a straeon tebyg i bapurau a chylchgronau rhyngwladol.
"Mae’n fywoliaeth anwadal ac anodd" meddai, ond mae’n edrych ymlaen at barhau â’r teithio dros y flwyddyn sydd i ddod gan ddatblygu elfen arall i'w busnes wrth werthu rhagor o luniau fel gwaith celf.
“Dwi’n gobeithio gwneud prosiectau neis yn yr Aifft sydd nawr yn gartref i fi. Dwi’n caru ceffylau felly dwi wastad yn chwilio am ffyrdd o weithio gyda nhw. Byddai’n mynd nôl i Irac, a bendant am fynd i Mosul i weld shwt mae pethau wedi datblygu yno. Falle a’i nôl i Wcrain hefyd.
Yn syml, parhau i wneud y gwaith dwi’n ei garu.”