Rhybudd melyn am niwl mewn mannau fore Sadwrn
21/01/2023
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl i rai mannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Fe allai'r niwl achosi amgylchiadau anodd i yrwyr rhwng 02:00 a 11:00 fore dydd Sadwrn.
Fe allai rhai teithiau bysus a threnau gael eu heffeithio hefyd am gyfnod.
Yr ardaloedd dan sylw yw:
- Powys
- Sir Fynwy
- Wrecsam