Y chwaraewr rygbi Kurtley Beale wedi'i gyhuddo o ymosodiad rhyw
Mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Kurtley Beale wedi'i arestio a'i gyhuddo o ymosod ar fenyw yn rhywiol mewn tafarn yn Sydney.
Cafodd y chwaraewr 34 oed o Awstralia ei arestio ddydd Gwener mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ar fenyw 28 oed yn ardal Bondi o'r ddinas ym mis Rhagfyr.
Mae disgwyl i Mr Beale ymddangos yn y llys ddydd Sadwrn.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu New South Wales fod y llu wedi cyhuddo dyn o gael cyfathrach rywiol heb ganiatâd, annog rhywun i gyffwrdd rhywun arall yn rhywiol heb ganiatâd a dau gyhuddiad o gyffwrdd rhywun yn rhywiol heb ganiatâd.
Fe wnaeth Mr Beale ddychwelyd i Awstralia yn 2022, wedi iddo dreulio dwy flynedd yn chwarae rygbi i Racing Metro 92 yn Ffrainc.
Yn ddiweddar, cafodd ei enwi yng ngharfan ymarfer Awstralia ar gyfer y Cwpan y Byd ym mis Medi.
Ond mae Rygbi Awstralia bellach wedi gwahardd y chwaraewr o gymryd rhan mewn unrhyw fath o rygbi.
Dywedodd bwrdd llywodraethu'r gamp yn y wlad na fydd yn gwneud rhagor o sylw ar y mater tra bod y corff yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.
Llun: WikiCommons