Gwrthod galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i Gymru dderbyn arian o gynllun HS2

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi gwrthod galwadau Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i Gymru dderbyn arian HS2, gan ddweud mai'r ateb yw "na".
Mewn cyfweliad gyda chyfres wleidyddol S4C, Y Byd yn ei Le, dywedodd David TC Davies na fyddai Cymru yn derbyn unrhyw arian o HS2, er gwaethaf galwadau Andrew RT Davies.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd Cymru yn buddio digon o brosiect HS2.
"Yn y lle gyntaf, y journey times rhwng gogledd Cymru a Llundain yn mynd i dod i lawr, a'r ail peth yw ma'r budget trafnidiaeth yn mynd i fynd i fyny beth bynnag.
"Ac wrth gwrs, mae llawr iawn o cwmnïau yng Nghymru yn rhan o'r supply chain sy'n darparu stwff i prosiect HS2."
Mae Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi galw sawl gwaith ar Lywodraeth y DU i sicrhau fod Cymru yn derbyn ei siâr o'r arian sy'n cael ei wario ar brosiect rheilffordd HS2.
Ar hyn o bryd, dim ond Yr Alban a Gogledd Iwerddon fydd yn buddio'r ariannol o'r prosiect a fydd yn teithio rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.
Mae modd gwylio'r cyfweliad yn llawn ar Y Byd yn ei Le ar S4C Clic.