Gweithwyr ambiwlans yn cyhoeddi cyfres newydd o streicio diwydiannol
Mae undeb sydd yn cynrychioli gweithwyr ambiwlans wedi cyhoeddi y bydd 10 streic newydd yn cael eu cynnal gan aelodau mewn anghydfod dros gyflogau a phwysau gwaith.
Dywedodd undeb Unite y bydd aelodau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnal 10 streic arall dros yr wythnosau nesaf, gan rybuddio y gallai dyddiadau ychwanegol gael eu cyhoeddi’n fuan.
Fe fydd aelodau'r undeb yng Nghymru yn mynd ar streic ar ddyddyiau'r 6ed a'r 20fed o Chwefror, a'r 6ed a'r 20fed o fis Mawrth.
Mae disgwyl i weithwyr ambiwlans sydd yn aelodau o Unite fynd ar streic arall ddydd Llun nesaf hefyd, wrth i’r amghydfod gyda llywodraethau Cymru a San Steffan barhau.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Yn hytrach na gweithredu i amddiffyn y GIG a negodi diwedd i’r anghydfod, mae’r llywodraeth wedi dewis pardduo gweithwyr ambiwlans.
“Mae gweinidogion yn fwriadol yn camarwain y cyhoedd ynglŷn â’r gwasanaeth diogelu bywyd sydd ar gael (ar ddyddiau streicio) a phwy sydd ar fai am farwolaethau.
“Mae ein haelodau wedi eu hymrwymo i gyflenwi gwasanaeth achub bywyd ar ddiwrnodau streicio ac nid yr undebau sydd yn darparu isafswm lefelau gwasanaeth.
“Ymdriniaeth drychinebus y llywodraeth hon o’r GIG sydd wedi dod â’r cyfan i ben, ac wrth i argyfwng gynyddu, mae’r prif weinidog i’w weld yn golchi ei ddwylo o’r anghydfod.”
Roedd gweithwyr ambiwlans ar streic yng Nghymru ddydd Iau, ac mewn ymateb i'r streic honno, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd, undebau a phartneriaid i sicrhau bod gofal sy’n achub a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu yn ystod y gweithredu diwydiannol, bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal a bod aflonyddwch yn cael ei leihau.
"Ond mae'n hanfodol i bob un ohonom wneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol ac ein bod yn ystyried yn ofalus pa weithgareddau rydym yn cymryd rhan ynddynt.
"Dylai unrhyw un sydd mewn perygl uniongyrchol ffonio 999 ac rydym yn annog pobl i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru i gael cyngor iechyd lle nad oes bygythiad i fywyd, neu siarad â fferyllydd, meddyg teulu neu ymweld ag uned fân anafiadau."