
Camgymryd Cymru am Loegr yn arwain at wahoddiad unigryw gan Mark Drakeford
Camgymryd Cymru am Loegr yn arwain at wahoddiad unigryw gan Mark Drakeford
Mae Pavlina Sudrich yn byw yn Yukon yng Nghanada ac mae ganddi dros 193,000 o ddilynwyr ar TikTok.
Gyda'r tymereddau rhewllyd yn Yukon, mae Pavlina yn aml yn chwilio am botel dŵr poeth i'w chadw hi'n gynnes.
"Fe wnes i ddarganfod rhywun yng Nghymru o'r enw Belinda sy'n berchen ar fusnes o'r enw Pothies ac mae hi'n gwneud gorchudd potel dŵr poeth a chyn gynted ag y gwelais o, roeddwn i'n meddwl ei fod yn anhygoel a dwi ei angen!" meddai Pavlina.
Ond wrth ddiolch am ei hanrheg, fe wnaeth Pavlina godi gwrychyn sawl un ar ôl iddi ddweud yn y fideo fod "Cymru yn Lloegr".
"Wrth gwrs, roeddwn i'n golygu'r DU, ond camgymeriad oedd o ac ar yr adeg hynny, doedd gen i ddim gwerthfawrogiad llawn o pa mor ddigywilydd oedd hyn drwy gyfleu fod Cymru yn Lloegr i bobl Cymraeg.
"Y bore wedyn, fe wnes i ddeffro a gweld y sylwadau ac fe wnes i sylwi fy mod i wedi gwneud camgymeriad a rhywbeth a wnaeth godi gwrychyn y Cymry yn fawr," meddai.
'Rhwystredig'
Yn ôl Pavlina, roedd y sylwadau yn dod gan bobl oedd yn "rhwystredig o'r diffyg ymwybyddiaeth."
"Dwi'n meddwl fod llawer o bobl jyst yn teimlo'n rhwystredig am y diffyg ymwybyddiaeth gan weddill y byd fod Cymru yn wahanol."
Yn sgil ei sylwadau, fe wnaeth Pavlina fideo arall er mwyn ymddiheuro gan ddweud yn Gymraeg: "Mae'n ddrwg gen i i'r Cymry."
"Gorffenais i fy ymddiheuriad drwy ddweud fy mod i'n agored i ddysgu mwy am genedlaetholrwydd Cymreig a'ch gwlad brydferth felly Mark Drakeford, os ydych chi'n gwylio hwn, anfonwch wahoddiad ata i."

Fe wnaeth Mark Drakeford wylio'r fideo, ac roedd ganddo neges arbennig ar gyfer Pavlina.
"Wrth gwrs, byddai'n ffantastig os y basa ti'n gallu dod yma i Gymru er mwyn i ni ddangos i ti yr holl bethau sydd yn arbennig amdanom ni," meddai Mr Drakeford.
Roedd gweld Mr Drakeford yn ymateb i'w fideo yn syndod mawr i Pavlina.
"'Nes i ddim gwneud y fideo yn disgwyl y byddai Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru yn fy ngwahodd i.
"Ychydig o ddyddiau wedyn, fe wnes i weld fy mod i wedi fy nhagio mewn fideo ac fe wnes i edrych arno, a phwy oedd yna oedd neb llai a'r Prif Weinidog ei hun gyda gwahoddiad i ymweld â Chymru ac roeddwn i mor gyffrous achos dydych chi byth yn disgwyl fod pethau fel hyn yn bosib."
'Cyffrous'
Bydd Pavlina yn teithio i Gymru ddechrau Chwefror, ac mae ganddi eisoes gynlluniau wedi eu paratoi.
"Byddwn ni'n cychwyn gyda chyfarfod gyda'r Prif Weinidog ar 8 Chwefror yn y Senedd cyn mynd ymlaen i Aberhonddu ac i ogledd-ddwyrain Cymru ble y byddwn ni'n mynd i weld Wrecsam yn chwarae.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod pobl Cymru a dysgu mwy am eich iaith."
Mae Pavlina yn hynod o gyffrous i deithio i Gymru ac i ddysgu mwy am y wlad a'i diwylliant.
"Mae dysgu mwy am Gymru a lle ydych chi heddiw, o ran yr ymdrech efo'r Gymraeg a'ch diwylliant, mae'n rhywbeth dwi wir eisiau arddangos o ran sut yr ydym ni'n siarad am Gymru."