Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn ymddiheuro yn dilyn marwolaeth claf

20/01/2023
Ysbyty Athrofaol Cymru (mick Lobb)

Mae adroddiad a gafodd ei gynnal yn sgil cwyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dod i'r gasgliad efallai na fyddai dyn wedi marw pe bai wedi derbyn y gofal priodol. 

Mae merch y dyn a fu farw yn cael ei chyfeirio ati fel 'Miss X' gyda ei thad yn cael ei gyfeirio ato fel 'Mr Y' yn yr adroddiad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

Cwynodd Miss X am y gofal a'r driniaeth fe wnaeth ei thad dderbyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2020. 

Cafodd ei yrru adref o'r adran achosion brys cyn cael ei dderbyn yn ôl i'r ysbyty ble fu farw ychydig o ddyddiau wedyn ar ôl iddo orfod cael llawdriniaeth frys. 

Fe wnaeth Michelle Morris yr Ombwdsmon ymchwilio i weld os y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ryddhau Mr Y yn amhriodol o'r adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Mawrth 2020. 

'Nifer o ddiffygion'

Fe wnaeth yr Ombwdsmon hefyd ymchwilio i weld os y gwnaeth y Bwrdd fethu â rhoi diagnosis o rwystr yn y coluddyn a pha effaith cafodd hyn ar ei farwolaeth. 

Yn y canfyddiadau, dywedodd yr adroddiad fod Mr Y wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty yn amhriodol yn sgil "y nifer o ddiffygion yn y dull o ofalu amdano" gan gynnwys methu ag asesu ei hanes clinigol a'i symptomau newydd. 

"Efallai y byddai asesiad pellach a chael ei dderbyn i'r ysbyty bryd hynny wedi newid y canlyniad iddo," meddai'r adroddiad. 

Ychwanegodd yr adroddiad fod y methu â chanfod yr hyn oedd yn bod ar Mr Y wedi arwain at "oedi yn llawdriniaeth Mr Y a wnaeth olygu fod ei gyflwr yn gwaethygu.

"Pe bai Mr Y wedi cael ei arsylwi yn briodol ac yn gynt a wedi derbyn diagnosis ar y diwrnod y daeth i fewn i'r ysbyty, byddai ei obeithion o oroesi wedi cynyddu."

Roedd Mr Y yn sal iawn yn dilyn y lawdriniaeth, ond ni chafodd ei symud i'r uned gofal dwys. 

Yn ôl yr adroddiad, pe bai mr Y wedi derbyn gofal yn yr uned honno, "efallai byddai ei ddirywiad a'i farwolaeth wedi cael eu hatal."

Yn ei chanfyddiadau, fe wnaeth yr Ombwdsmon hefyd ystyried effaith y pandemig a ddechreuodd ar yr amser pan y cafodd Mr Y ei dderbyn i'r ysbyty. 

Er fod hyn yn rhoi "pwysau eithafol ar staff yr ysbyty", roedd achos Mr Y yn "argyfwng" ac "ni wnaeth o dderbyn y gofal y dylai fod wedi ei gael."

Argymhellion

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r Bwrdd Iechyd ddarparu Miss X gydag "ymddiheuriad ysgrifenedig" o fewn 6 wythnos i gyhoeddiad yr adroddiad am y methiannau sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. 

O fewn tri mis, dylai'r Bwrdd Iechyd rannu'r adroddiad gyda'r Cyfarwyddor Clinigol oedd yn gyfrifol am y clinigwyr oedd yn gyfrifol am ofal Mr Y.

Mewn ymateb i'r adroddiad, fe wnaeth Suzanne Rankin, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ymddiheuro am y "methiannu yng ngofal Mr Y." 

"Mae'n wastad yn anodd pan na allwn ddweud gyda sicrwydd os allai'r canlyniad truenus wedi bod yn wahanol. Mae'n amlwg o'r adroddiad y cafodd cyfleoedd eu methu." meddai. 

"Rydym yn gweithredu argymhellion o'r Ombwdsmon ac mae cynllun er mwyn er mwyn gwneud gwelliannu wedi'i datblygu er mwyn monitro cynnydd yr argymhellion.

"Byddwn yn croesawu'r cyfle i gwrdd â theulu Mr Y er mwyn trafod yr adroddiad a'r argymhellion yn bellach."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.