Newyddion S4C

Byddai Llywydd Y Senedd wedi 'mwynhau bod yn Brif Weinidog'

Byddai Llywydd Y Senedd wedi 'mwynhau bod yn Brif Weinidog'

Mae Llywydd y Senedd wedi dweud y byddai wedi “mwynhau” y cyfle o fod yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Dywedodd yr aelod Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones, ei bod yn deall nad yw swydd y Prif Weinidog “yn digwydd i bawb”.

Fe ymgeisiodd am arweinyddiaeth Plaid Cymru yn 2012, gan golli i Leanne Wood.

“Pan fydda i yn gorffen fy mywyd gwleidyddol, fe fydda i wastad yn meddwl y bydden i wedi joio bod yn Brif Weinidog Cymru,” meddai wrth raglen Y Byd yn ei Le.

“Ond, fe fydda i’n ddigon cysurus gyda’r hyn dwi wedi ceisio’i gyflawni hyd yn hyn a beth bynnag sydd i ddod eto.”

'Beiddgar'

Cafodd Elin Jones ei hethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf yn 1999, ac mae wedi bod Llywydd y Senedd ers 2016

Rhwng 2007 a 2011, bu’n Weinidog ar Faterion Gwledig; swydd oedd yn “gyfle ac yn fraint i weithredu polisiau beiddgar newydd i Gymru.”

Er hyn, mae’n “eithaf balch” na ddaeth hi’n arweinydd Plaid Cymru, gan gydnabod ei bod yn swydd “anodd ac astrus iawn”.

Wrth ymateb i’r newyddion bod Prif Weinidog Seland Newydd Jacinda Ardern am gamu i lawr, dywedodd Elin Jones bod ei phenderfyniad yn “arwydd o gryfder y fenyw i benderfynu ei bod hi eisiau gwneud pethau gwahanol yn ei bywyd.”

Dywedodd Jacina Ardern nad oedd ganddi “ddim byd ar ôl yn y tanc” ar ôl chwe blynedd wrth y llyw.

Yn ôl Elin Jones, “mae gormod o bobl, yn cynnwys fy hun, yn mynd i mewn i wleidyddiaeth, yn enwedig dynion, yn meddwl ei fod e’n yrfa iddyn nhw tan eu bod nhw’n ymddeol yn 65, 75 neu’n 85.”

Wrth ystyried y dyfodol, dywedodd y bydd hi’n “bryd i fi cyn bo hir i roi’r cyfle i’r genhedlaeth nesa’.” Er hyn, nid yw wedi penderfynu eto a fydd hi’n sefyll yn etholiad 2026 neu beidio.

“Mae cyfrifoldeb arnon ni fel gwleidyddion o oedran penodol i feddwl am y cyfle i’r criw nesaf.”

'Senedd gryfach'

Erbyn 2026, fe fydd nifer yr aelod seneddol yn cynyddu i 96, gan olygu bydd nifer o ffiniau etholaethol presennol yn newid. Un o’r rheiny fydd Ceredigion, etholaeth Elin Jones.

“Dwi’n berson sy’n credu’n gryf iawn bod angen mwy o aelodau a Senedd gryfach ar gyfer gweddill y ganrif yma”

“Ond mae’n torri fy nghalon i hefyd na fydd 'na aelod penodol ar gyfer Ceredigion i’r dyfodol.”

Gwyliwch y cyfweliad yn llawn ar Y Byd yn ei Le ar S4C am 21:00 nos Iau neu ar S4C Clic. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.