Caerdydd allan o Gwpan y FA wedi crasfa yn Leeds
Mae CPD Caerdydd allan o Gwpan yr FA wedi iddynt ddioddef cweir o 5-2 y erbyn Leeds nos Fercher.
Fe wnaeth yr Adar Gleision ildio o fewn yr eiliadau cyntaf yn Elland Road wrth i Wilfried Gnonto rwydo.
Mae clwb y brifddinas heb reolwr ar hyn o bryd wedi i Mark Hudson gael ei ddiswyddo dros y penwythnos,
Sgoriodd Leeds yr ail gôl gyda Rodrigo yn rhwydo ychydig wedi'r hanner awr, a dau funud yn ddiweddarach fe gynyddodd Gnonto y fantais eto.
Parhaodd poen Caerdydd ar ôl yr egwyl wrth i Patrick Bamford sgorio dwy gôl i roi Leeds 5-0 ar y blaen.
Fe wnaeth Callum Robinson sgorio ddwywaith i'r Adar Gleision yn ystod y 10 munud olaf i leddfu ychydig ar y boen, ond yn llawer rhy hwyr i godi gobeithion Caerdydd.
Daw'r golled fel ergyd drom i'r clwb oedd eiliadau i ffwrdd o guro'r tîm o'r Uwch Gynghrair yn y cymal cyntaf.
Mae'r canlyniad yn golygu mai Wrecsam yw'r unig dîm Cymreig sydd dal yn y ras i hawlio Cwpan yr FA.
Mae'r Dreigiau yn wynebu Sheffield United yn y bedwaredd rownd ar 28 Ionawr.