Merch 16 o Bowys wedi marw 'oherwydd esgeulustod ei rhieni'
Mae llys wedi clywed bod esgeulustod rhieni wedi arwain at farwolaeth merch 16 oed o Bowys.
Cafodd Kaylea Titford ei darganfod yn farw mewn dillad a lliain gwely budr ac yn beryglus o ordew yn ei thŷ yn Y Drenewydd ym mis Hydref 2020.
Roedd Kaylea yn pwyso bron i 23 stôn pan gafodd ei darganfod yn byw mewn amodau "anaddas i unrhyw anifail."
Mae ei mam, Sarah Lloyd-Jones, 39, wedi cyfaddef i ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol ond mae ei thad, Alun Titford, 45, yn gwadu'r cyhuddiad.
Clywodd Llys y Goron Y Wyddgrug bod gan Kaylea gyflwr spina bifida a hydrocephalus, sef hylif ar yr ymennydd. Roedd hi wedi defnyddio cadair olwyn ers yn ifanc.
Dywedodd yr erlyniad bod Kaylea wedi byw mewn "budreddi" a bod parafeddygon wedi'i darganfod gyda phryfed ar ei chorff a photeli llaeth llawn wrin o'i chwmpas.
"Roedd Kaylea Titford yn byw mewn amodau anaddas i unrhyw anifail, heb sôn am ferch 16 oed fregus a oedd yn dibynnu ar bobl eraill ar gyfer gofal," meddai'r erlynydd Caroline Rees.
"Mae'r erlyniad yn dweud bod yr amodau ynghyd a'r ffordd cafodd corff Kaylea ei ddarganfod yn dangos y cafodd y ferch fregus yma ei hesgeuluso gan nid yn unig un, ond y ddau o'i rhieni oedd yn gyfrifol am ei gofal."
Clywodd y llys fod Mr Titford wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd o yn "dad da" ac mai ei wraig oedd yn edrych ar ôl Kaylea a'r gwaith glanhau.
Dywedodd bod ei ferch wedi tyfu'n rhy fawr ar gyfer ei chadair olwyn a doedd o heb ei gweld allan o'r gwely ers cyn y cyfnod clo.
Mae Mr Titford yn gwadu achosi marwolaeth trwy esgeulustod difrifol a chyhuddiad gwahanol o achosi neu alluogi marwolaeth plentyn.
Fe fydd yr achos llys yn parhau ddydd Iau.